Cywiriadau

NORRIS, CHARLES (1779 - 1858), arlunydd ac ysgythrwr

Enw: Charles Norris
Dyddiad geni: 1779
Dyddiad marw: 1858
Rhiant: Deborah Busby
Rhiant: John Norris
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arlunydd ac ysgythrwr
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 24 Awst 1779 yn ail fab i John Norris, masnachwr cyfoethog yn Llundain, o'i wraig Catherine (Lynch), gwraig ysgaredig Henry Knight o Landidwg ym Morgannwg (gweler yr ysgrif ' Knight '). Nid oedd yn Gymro, ond yng Nghymru y bu'n byw ac yn gweithio am gryn hanner canrif. Ymsefydlodd yn 1800 yn Aberdaugleddau, ond symudodd yn 1810 i Ddinbych-y-pysgod, lle y bu farw 16 Hydref 1858; â Thyddewi a Phenfro a Dinbych-y-pysgod y mae a fynno'r mwyafrif mawr o'i ddarluniau; cyhoeddodd hefyd lyfr, A Historical Account of Tenby, yn 1818 (2il arg. 1820). Yr oedd yn 'gymeriad,' ac y mae ysgrif fywiog arno gan Edward Laws yn Archæologia Cambrensis, 1891 - arni y seiliwyd yr ysgrif yn y D.N.B.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau

NORRIS, CHARLES

mab John Norris, Hughenden, sir Buckingham, o gariadwraig Deborah Busby. Ail ŵr Catherine Lynch oedd Syr John Norris, nid John Norris, Hughenden.

    Dyddiad cyhoeddi: 1970

    Cywiriadau

    Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

    Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.