OWEN, THOMAS ELLIS (1764 - 1814), clerigwr

Enw: Thomas Ellis Owen
Dyddiad geni: 1764
Dyddiad marw: 1814
Rhiant: Elizabeth Owen (née Ellis)
Rhiant: William Owen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yng Nghonwy 5 Rhagfyr 1764, ond nis bedyddiwyd cyn 25 Mawrth 1765; mab i William Owen, dilledydd a threthgasglydd, a'i wraig Elizabeth Ellis, Glan-y-wern, Mochdre, ferch John Ellis, atwrnai. O ysgol Westminster aeth yn 1785 i Goleg Eglwys Crist, Rhydychen; graddiodd yn 1789. Penododd ei goleg ef yn 1790 yn ficer South Stoke (Oxon.), ond ar 10 Rhagfyr 1794 cafodd reithoraeth Llandyfrydog gyda Llanfihangel-tre'r-beirdd; yr oedd hefyd o ddiwedd 1812 yn gurad parhaol Penmynydd - i gyd ym Môn, ym Miwmares y cartrefai. Bu farw 1 Rhagfyr 1814, a chladdwyd yn Llanfair-is-gaer (y Felinheli), lle y mae tabled goffa iddo. Y mae'n hysbys fel awdur dau bamffled gwrth-Fethodistaidd, Hints to Heads of Families, 1801 (dau arg., 3ydd yn 1802), a Methodism Unmasked, 1802; atebwyd y blaenaf gan Thomas Charles (a Thomas Jones) yn The Welsh Methodists Vindicated, 1802, a chan Twm o'r Nant mewn cerdd ffyrnig, ' Cân ar Berson Paris,' 1802 - nid yw Llandyfrydog ymhell o Fynydd Parys.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.