OWEN, EDWARD HUMPHREY (1850 - 1904), Tŷ Coch, Caernarfon, casglwr llyfrau a llawysgrifau a hanesydd lleol

Enw: Edward Humphrey Owen
Dyddiad geni: 1850
Dyddiad marw: 1904
Rhiant: Elizabeth Owen
Rhiant: John Owen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: casglwr llyfrau a llawysgrifau a hanesydd lleol
Cartref: Tŷ Coch
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd 20 Rhagfyr 1850, mab John Owen, marsiandwr coed, etc., ac Elizabeth ei wraig. Yr oedd i E. H. Owen ddiddordeb arbennig mewn hanes lleol ac yn enwedig yn hanes ei hynafiaid, ac arweiniodd hyn ef i gynnull llyfrgell werthfawr o lyfrau a llawysgrifau. Prynwyd y llyfrgell yn 1910 gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a chedwir hi ar ei phen ei hun ymhlith y 'casgliadau sylfaenol.' Ceir manylion am rai o'r cyfrolau printiedig yn adroddiad (Annual Report) y Llyfrgell Genedlaethol am 1909-10. Disgrifir y llawysgrifau, NLW MS 815-68 yn awr, yn N.L.W. Handlist of MSS. i, 61-7; ymysg y llawysgrifau y mae saith gyfrol a fu yng nghasgliad Syr Richard Colt Hoare, dwy gyfrol o gasgliad William Williams, Llandegai, a chyfrolau a fu'n perthyn i Jonathan Jones, goruchwyliwr trethi'r Llywodraeth, Caernarfon. Ceir amryw gasgliadau o achau ac o farddoniaeth ymysg y llawysgrifau. Bu farw 22 Ebrill 1904, a chladdwyd ef ym meddrod y teulu ym mynwent eglwys Llanfair-is-gaer.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.