Ganwyd yn 1839, mab John a Mary Owen, Ystum Werddon, Llangristiolus, Môn. Oherwydd marw ei dad pan oedd Richard yn 11 oed a cholli'r brawd hynaf ymhen tua blwyddyn, bylchog fu cwrs ysgol y bachgen. Pan amlygodd awydd i fyned i'r weinidogaeth teimlai'r arweinwyr fod cryn lawer o waith paratoi arno. Fel y tyfai i fyny gofynnai eglwys fach Cana ar gwr yr ardal am ei gymorth, a daeth yntau i deimlo atyniad yr eglwys fach a chartrefol honno. Yng ngrym dylanwad diwygiad Dafydd Morgan, fel y gelwid ef, fe'i cyflwynodd ei hun yn ffurfiol fel ymgeisydd am y weinidogaeth. Gwelwyd yn dda roddi iddo faes o saith eglwys i bregethu ynddynt, a chafodd £10 gan y dosbarth at gael cwrs o addysg yn Ysgol Frutanaidd Llangefni. Yn 1863 aeth i Goleg y Bala, ond anodd iawn, onid annichon, oedd i un a oedd eisoes ar gerdded cyson fel efengylydd wneuthur fawr ohoni fel efrydydd. Pan drefnodd pobl dda Ffestiniog i'r prifathro a'r disgybl disyml gyd-bregethu yn yr un oedfa fe ddiflannodd o feddwl y Dr. Lewis Edwards bob barn condemniad ar Richard Owen. Yn 1867 priododd Ellen, chwaer i'r Parch. Robert Evans, y cenhadwr. Am bedair blynedd buont yn byw yn Rhos-cefn-hir ger Pentraeth - y wraig yn masnachu, ac yntau yn efengylu. Rhoddes wedyn dymor yn Llundain, ac ar ei ddychweliad oddi yno yn 1873 fe'i hordeiniwyd. Pan ddaeth yn ôl ac ymsefydlu ym Mhen-y-sychnant, Penmaenmawr, grymusodd ei genhadaeth a cherddodd ei ddylanwad dros Gymru gyfan. Nid aeth i bulpud erioed ŵr mwy disyml a diymhongar na hwn. Nid oedd iddo na huodledd na bywiogrwydd ystum, ac eto pan ddeuai'r angerdd, a'r pregethwr yn edrych i wyneb y gynulleidfa, deuai allan feddyliau disglair a disgrifiadau a fyddai'n llorio pawb. Gwnaeth ei gartref am dymor byr yn Ninbych ac wedyn yn Aberystwyth, a bu farw yn Nhycroes, Pentraeth, Môn, 16 Chwefror 1887.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.