PARRY, GEORGE (1613? - 1678), clerigwr a wnaeth fersiwn fydryddol Gymraeg o rai o'r salmau

Enw: George Parry
Dyddiad geni: 1613?
Dyddiad marw: 1678
Rhiant: James Rhys Parry
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr a wnaeth fersiwn fydryddol Gymraeg o rai o'r salmau
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd c. 1613, mab James Rhys Parry. Ceir rhai manylion am gysylltiadau'r teulu a siroedd Henffordd a Brycheiniog yn yr erthygl ar y tad, ac yn llawnach yn Jnl. Welsh Bibliog. Soc., ii, 276-301, a iii, 13-6 — y cwbl o'r bron wedi eu cael yn rhagymadroddion George Parry i'w fersiwn ef fel y ceir hi yn N.L.W. MS. 641. Y mae'n weddol sicr mai yr un ydoedd George Parry mab James Rhys Parry â ‘George Parry, son of James Parry of Michael Church (Michaelchurch Escle), co. Hereford, pleb. St. John's College matric. 17 January, 1633-4, aged 21; B.A. 4 February 1633-4; perhaps M.A. Hart Hall 23 June 1635, and vicar of Dingestow, co. Monmouth, 1640, perhaps canon of Llandaff, 1663’ (Foster, Alumni Oxon.). Rhydd George ei hunan (yn N.L.W. MS. 641) fanylion ychwanegol. Bu'n athro cynorthwyol yn ysgol y Dr. Willes yn Thistleworth (Isleworth), yn feistr ysgol ramadeg y frenhines Elisabeth, Caerfyrddin (cyn 1640 y mae'n debyg), a bu ganddo gysylltiad ag esgobaeth Llandaf; bernir felly mai efe oedd y George Parry a ddaeth yn offeiriad Dingestow, sir Fynwy, yn 1640, ac a wnaethpwyd yn ganon yn eglwys gadeiriol Llandaf (7 Ionawr 1662/3). Gwnaethpwyd ef yn offeiriad Cheriton a Llanmadoc yng Ngŵyr (c. 1649); dywed Browne Willis (Survey of Llandaff, 1719) iddo f. yn nechrau 1678 a'i gladdu yn Cheriton. Y mae fersiwn George Parry mewn rhan mewn ‘mesur salm’ ac mewn rhan mewn mesurau caeth. Eithr yn wahanol i'r cyfieithwyr eraill ceir ganddo ef fersiwn Ladin hefyd — yn gyfochrog â'r un Gymraeg.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/