Ni wyddys mo flwyddyn ei eni nac amser ei farw, eithr gellir barnu ei fod yn aelod o ryw gangen o deulu Parry, Poston, sir Henffordd, a Llandefaelog-tre'r-graig, sir Frycheiniog - gweler ach y teulu arbennig hwn yn Jones, Brecknockshire, a Llyfr Baglan, 37. Os felly, bu James yn briod deirgwaith; ac y mae'n fwy na thebyg mai'r drydedd wraig oedd mam ei fab George Parry. Pan aeth y mab hwn i Rydychen (17 Ionawr 1633/4) fe'i disgrifir ef yn fab James Parry, 'Michael Church, Herefordshire.' Ceir 'cywyddau' ac 'englynion' gan James Parry (ac, efallai, gan ei dad Rhys Parry) yn Llanstephan MS 50 . Eithr fe'i coffeir yn bennaf oherwydd iddo, fel Edmwnd Prys ac eraill gynnig troi'r salmau Cymraeg ar gân. Ceir ei fersiwn ef mewn tair llawysgrif - B.M. Add. MS. 14895 a dwy yn y Llyfrgell Genedlaethol, sef Cwrtmawr MS 28B a Peniarth MS 220 . Ceir manylion am gysylltiad Parry â'r esgob William Morgan ac â'r archddiacon Edmwnd Prys mewn fersiwn arall o'r salmau ar gân, sef fersiwn George Parry, mab James Parry - (yn NLW MS 641C ). Yno dywed y mab fod y tad o deulu da yn Ewyas Lacy yn Swydd Henffordd (yng Nghymru hyd 1543), yn noddwr beirdd, ac yn fardd ei hunan, ac iddo roddi ei fersiwn i William Morgan pan oedd yn esgob Llandaf ac y bu i hyn symbylu Edmwnd Prys i wneud gwaith cyffelyb - i Prys ddefnyddio fersiwn Parry (gweler cyfieithiad o'r geiriau Lladin yn Journal of the Welsh Bibliographical Society, ii, 287). Gan mai o 1595 hyd 1601 yr oedd Morgan yn Llandaf gellir tybio mai dyna'r pryd y gwnaeth Parry ei waith.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.