PENNY, ANNE (fl. 1729-80), awdures

Enw: Anne Penny
Priod: Penny
Rhiant: Mary Hughes
Rhiant: Bulkeley Hughes
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: awdures
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: William Llewelyn Davies

Bedyddiwyd hi ym Mangor 6 Ionawr 1728/9, merch Bulkeley Hughes (bu farw 1740?), clerigwr yn esgobaeth Bangor (Bangor, 2 Mehefin 1713-23; Edern, 17 Ionawr 1722/3-40) a Mary ei wraig. Bu'n byw yn Llundain (Bloomsbury Square) yn wraig - Penny, ac yn Llundain y cyhoeddwyd ei llyfrau - Anningait and Ajutt … A Greenland Tale Inscribed to Mr. Samuel Johnson, 1761; Select Poems from Mr. Gesner's Pastorals, 1762; Poems with a Dramatic Entertainment, 1771; A Pastoral Elegy, 1773?; Poems, 1780 (ail arg. o gyfrol 1771). Cyfeiria Thomas Pennant yn ei Tours in Wales, ii, at gyfrol 1780. Yr ydoedd Richard Morris hefyd, un o ' Forysiaid Môn,' yn gwybod am yr awdures. Teitl un o'i chaniadau ydyw ' Taliesin's poem to Prince Elphin.'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.