Cywiriadau

PENRY, DAVID (1660? - 1721?).

Enw: David Penry
Dyddiad geni: 1660?
Dyddiad marw: 1721?
Rhiant: Margaret Penry
Rhiant: William Penry
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Evan Lewis Evans

Bernir ei hanfod o hen deulu urddasol Plas Llanedy, a saif yn nyffryn Llwchwr, ar gwr uchaf plwyf Llanedi, Sir Gaerfyrddin. Dywedir bod ei fryd ar fynd yn glerigwr, ond ei droi mewn cyfarfod dirgel o dan bregethu Stephen Hughes. Hyfforddwyd ac ordeiniwyd ef gan y gŵr hwnnw yn 1688, a rhoed arno ofal Annibynwyr Llanedi, Llannonn, Llangennech, a dyffryn Llwchwr. Rhwng 1690 a 1693, rhoddir £6 at ei gynnal o'r Gronfa Gyffredin, yn Llundain, a £9 o'r Bwrdd Presbyteraidd. Bu'n gwasnaethu cynulleidfa Tirdwncyn, Llangyfelach, am dymor, a rhyddhawyd ef oddi yno ar 14 Ionawr 1701 i gynorthwyo yng Nghwmllynfell a Gellionnen. Yn 1705 dywed wardeiniaid plwyf Llannonn fod 'un David Penry' a bagad o bobl yn cwrdd yn fferm y Llwytcoed. Ceir ef yn taenellu yn Nhirdwncyn yn 1708, a dywedir yn 1715 ei fod yn bwrw golwg dros Grug-y-bar a Chrug-y-maen (Ceredigion). Profwyd ei ewyllys yn 1722, ac yn ôl honno preswyliai mewn fferm ym mhlwyf Llandeilo Talybont, bron gyferbyn â'i hen gartref. Gadawodd ei lyfrau i'w olynydd yng nghapel Llanedi, gwerth £2 10s. yn ôl y cyfrif. Trwy ei lafur ef, mae'n ddiau, y codwyd y capel hwnnw, a dichon mai yno y claddwyd ef.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau

PENRY, DAVID (1660? - 1722)

Mab ydoedd i William Penry, Cwrt y Ceidrym, a Margaret, ei wraig (Alcwyn Evans). Yn ffermdy'r Wernchwith y bu'r cyfarfod dirgel. Gan i'w ewyllys gael ei phrofi ar 26 Ebrill 1722 y mae'n fwy na thebyg mai'n gynharach y flwyddyn honno y bu farw, felly newidier blwyddyn ei farw o ?1721.

    Dyddiad cyhoeddi: 1970

    Cywiriadau

    Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

    Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.