Mab i un ficer (Amroth), nai i un arall (Cydweli). Dywedir iddo fynychu mwy nag un ysgol ramadeg, gan gynnwys ysgol Biwritanaidd, Stanley Gower yn Brampton Bryan; rhoes ei enw i lawr ar lyfrau Prifysgol Rhydychen ond torrodd y Rhyfel Cartref allan cyn iddo raddio. Moel ryfeddol yw'r cofnodion cynnar amdano; nid oes air yn llawysgrifau Pwyllgor y Gweinidogion Llwm; ni enwyd ef fel profwr o dan Ddeddf y Taenu; yr unig gyfeiriad ato yn adroddiadau'r ddeddf honno yw i'r awdurdodau dalu £70 iddo am bregethu yn 1650-1, a rhoddi £5 iddo at atgyweirio persondy Llangwm (gyda llaw, nid oes gofnod pendant ei benodi'n weinidog i'r plwyf hwnnw). Gyda phlwyf Mounkton y cysylltir ei enw ar y dechrau, yn ddiweddarach daeth yn weinidog Llangwm a Freystrop (o dan fendith y 'Triers' yn ddiddadl); yn y cyfnod hwn arwyddodd yr 'Humble Representation' (1656) i longyfarch Cromwell ar ddod yn Ddiffynnwr i'r wladwriaeth, gan ddanbwyllo nifer go dda o aelodau eglwys Llangwm i arwyddo gydag ef; ymhellach ymlaen ar yr un flwyddyn wele ef i fyny yn Llundain i hyrwyddo'r bwriad o uno amryw o'r plwyfi cylchynol gyda phlwyf Llangwm i bwrpas pregethu'r Gair a chasglu'r degymau. Os main (ar y cyfan) yw'r cofnodion, tra chyfoethog yw'r traddodiad awdurdodedig amdano; Cromwell yn gofyn iddo bregethu o flaen swyddogion ei fyddin yn ystod y gwarchae ar Benfro yn 1648, ac yn erchi iddo weddïo ar frwrdd pob un o'r llongau oedd ar fin morio o Aberdaugleddau i Iwerddon yn 1649. Hanes iddo bregethu drwy'r rhan fwyaf o'r sir, ac o flaen y barnwyr ar eu twrn. O dan Ddeddf Unffunfiaeth 1662 gorfu arno adael Llangwm a Freystrop, dod o dan iau drom cyfreithiau Clarendon, er iddo (dywedir) gael llawer o gysgod a charedigrwydd gan deulu Owen o Orielton a Perrot o Haroldston. Adroddir am bwysi a roddwyd arno i gydymffurfio â threfn yr Eglwys, ac am ddadleuon cyhoeddus rhyngddo ac Eglwyswyr o nod; ei gyhuddo, serch hynny, a wnaeth yr esgob Lucy o briodi Anghydffurfwyr heb ofyn am wasanaeth offeiriad. Yn 1672 cafodd drwydded (dros dro) i bregethu yn ei dŷ ei hun yn Hwlffordd ac yn nhŷ Richard Meyler yn yr un dref; ac y mae peth lle dros gredu iddo fawrhau y rhyddid rhagrithiol a gyhoeddodd Iago II yn 1687. Yn yr adroddiad a anfonwyd i Lundain, rywbryd yn 1690, am sefyllfa amryw o weinidogion Anghydffurfiol Cymru, dywedir am Phillips ei fod yn byw ar fferm fechan yn Dredgman Hill ger Hwlffordd, ei bobl yn cyfrannu iddo £8 y flwyddyn, llai os na fyddai rhagluniaeth yn garedig wrthynt. Bu farw 17 Medi 1691.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.