PRICE, BENJAMIN (1804 - 1896), esgob cyntaf y 'Free Church of England'

Enw: Benjamin Price
Dyddiad geni: 1804
Dyddiad marw: 1896
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: esgob cyntaf y 'Free Church of England'
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn 1804 yn Llanfair-ym-Muellt, yn fab i Isaac Price, siopwr, a blaenor o gryn safle gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Yr oedd y tad yn nai i David Price, ficer Llanbadarn Fawr yn 1770, ac felly'n gefnder i'r orientalydd David Price, a'r fam, meddir, o deulu John Penry - gellir o leiaf dystio bod Penriaid yn byw ym mhlwyf Merthyr Cynog, y plwyf y mae pob arwydd i Isaac Price hanfod ohono. Dechreuodd Benjamin Price bregethu gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ac y mae cofnod iddo bregethu yn yr un oedfa â John Elias mewn sasiwn yn y Drenewydd yn 1830 - yn Saesneg. O bosibl mai Seisnigrwydd a wnaeth iddo fwrw'i goelbren gyda chyfundeb yr arglwyddes Huntingdon - urddwyd ef yn weinidog yn y cyfundeb bwnnw. Yn 1844, mewn adwaith yn erbyn y mudiad Tractaraidd, ffurfiodd rhai o glerigwyr Eglwys Loegr ' Eglwys Rydd '; un o'r mannau y cawsant eu traed danynt oedd Ilfracombe. Ymgyfathrachai'r ' Eglwys Rydd ' â'r Huntingdoniaid, gan nad oedd yn wir nemor wahaniaeth egwyddor rhyngddynt, ac aeth Price drosodd at yr ' Eglwys Rydd,' a chael ei ddewis yn weinidog yn Ilfracombe; yn nes ymlaen, efe oedd llywydd ('President') y mudiad - oblegid nid oedd esgobion ganddynt. Eithr yn America, lle'r oedd amryw esgobion Anglicanaidd wedi ffurfio'r ' Reformed Episcopal Church,' oddi ar yr unrhyw gymhellion, cadwyd y llywodraeth esgobol. Yn 1868, cytunwyd i Price arddel yr enw ' esgob,' eto heb ei gysegru; eithr yn 1876 daeth yr esgob Cridge o British Columbia drosodd, a chysegrwyd Price yn y ffurf arferol. Nid anghofiodd ei famwlad; fe welir ei enw ar restr y tanysgrifwyr i History of Brecknockshire Edwin Poole, a bu'n cenhadu yn y Deheudir - ffurfiodd eglwys yng Nghaerdydd, ond ni bu fawr lwyddiant iddi. Bu farw yn Ilfracombe yn gynnar yn Ionawr 1896, yn 92 oed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.