Cywiriadau

PRICE, THOMAS (1852 - 1909), gwleidydd Awstralaidd

Enw: Thomas Price
Dyddiad geni: 1852
Dyddiad marw: 1909
Priod: Anne Elizabeth Price (née Lloyd)
Rhiant: Jane Price
Rhiant: John Price
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd Awstralaidd
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn y Brymbo, sir Ddinbych, 19 Ionawr 1852, yn fab i John a Jane Price. Aeth yn blentyn i Lerpwl, lle y bu am flynyddoedd yn saer maen, ac yn selog gyda'r mudiad llwyrymwrthodol. Priododd (1881) ag Anne Elizabeth, ferch Edward Lloyd, masnachwr coed - cawsant saith o blant. Torrodd ei iechyd yn 1883, ac ymfudodd i Adelaide, De Awstralia, lle y daeth yn 1891 yn ysgrifennydd undeb ei grefft. Yn 1893, etholwyd ef yn aelod (Llafur) o'r Senedd; daeth yn ysgrifennydd y Blaid Lafur yn 1900, ac yn arweinydd iddi yn 1901. Yn 1905 daeth yn brif weinidog De Awstralia, mewn llywodraeth gymysg o Ryddfrydwyr a Llafurwyr; bu farw yn ei swydd, 31 Mai 1909. Yr oedd yn ddyn rhadlon a phoblogaidd, ac yn areithiwr hynod effeithiol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau

PRICE, THOMAS (TOM; 1852 - 1909), Prifweinidog De Awstralia

Ganwyd ym Maelor View, Brymbo, ger Wrecsam, Dinbych, 19 Ionawr 1852 yn fab i John a Jane Price. Yn flwydd oed symudodd y teulu i fyw yn ardal Everton yn Lerpwl. Ymaelododd y rhieni yn eglwys y Wesleaid yn Burrough's Gardens cyn symud i gapel newydd yn Boundary Street ac yno y cafodd Tom, y plentyn, ei fagwrfa grefyddol a bu'n barod i gydnabod ei ddyled i'r eglwys honno gydol ei oes, ac yn enwedig ei ddyled i'r Ysgol Sul y bu ynddi yn athro ac yn arolygwr.

Ar ôl dyddiau ysgol aeth y mab i ddilyn ei dad fel saer maen ac yna, wedi cwpláu ei brentisiaeth, ymgymerodd â pheth o faich busnes ei dad. Priododd, 14 Ebrill 1881, ag Anne Elizabeth, merch Edward Lloyd a chyfnither Syr Alfred T. Davies. Pan wanychodd ei iechyd penderfynodd Tom Price a'i briod ymfudo i Awstralia a glaniodd y ddeuddyn, gyda'u plentyn cyntafanedig, yn Adelaide, Mai 1883.

Yn Awstralia bu Tom Price yn naddu meini i'w gosod yn y senedd-dŷ yr etholwyd ef iddo ym mhen deng mlynedd wedi iddo lanio yn y wlad, fel A.S. yn enw'r Blaid Lafur. Bu'n ysgrifennydd i Undeb yr Adeiladwyr a phenodwyd ef yn arweinydd ei blaid. Yn 1905 dewisiwyd ef yn Brifweinidog rhanbarth De Awstralia a chadwodd y swydd hyd ei farw. Bu'n boblogaidd fel areithiwr hwyliog ar lwyfan, yn debyg yn hynny o beth, yn ogystal ag yn ei edrychiad, i Lloyd George. Yr oedd yn Gymro gwlatgar, parod i arddel ei genedl. Dyn ei gyfnod ydoedd ac, fel llawer o bobl ei gyfnod, yn llwyrymwrthodwr. Wedi ei ddyrchafu'n Brifweinidog ni chelodd y ffaith iddo fod yn perthyn i gymdeithas ddirwestol ar hyd ei oes. Nid yw'n debyg o gael ei gyfrif ymhlith y mwyaf o wladweinwyr, ond, yn ei ddydd, fe wnaeth waith canmoladwy gydag ychydig fanteision. Nid anghofiodd ei fagwraeth grefyddol, yn enwedig yr Ysgol Sul yn ei flynyddoedd cynnar. Cadwodd ei gysylltiad â'r Wesleaid - bu'n bregethwr cynorthwyol - a magodd ei blant, saith ohonynt, yn yr un traddodiad crefyddol. Bu farw 31 Mai 1909 a'i gladdu mewn mynwent yn Adelaide.

Awdur

  • Y Parchedig Eric Edwards

    Ffynonellau

  • The Cententary history of South Australia
  • Percival Serle, Dictionary of Australian Biography ( 1949 )
  • Australian Christian Commonwealth, 4 June 1909, 8-9
  • T. H. Smeaton, From Stone Cutter to Premier & Minister of Education the story of the life of Tom Price, a Welsh boy who became an Australian Statesman ( Adelaide 1924 )
  • Yr Eurgrawn Wesleyaidd, 169 (1977), 154-159

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.