Ganwyd 1 Rhagfyr 1878 yng Nghasnewydd-ar-Wysg, yr ieuengaf o dri mab Edwin Kemp Richards, cigydd. Bu mewn ysgol elfennol gan aros ymlaen yno'n ddisgybl-athro o dan Abraham Morris, ysgolfeistr adnabyddus yng Nghasnewydd; bu hefyd yn mynychu dosbarthiadau yn ysgol gelf Casnewydd a threulio gwyliau haf yn St. Ives a Bruges. Yn 1909 aeth i'r Royal College of Art, South Kensington, gydag ysgoloriaeth. Hyd yn hyn fel arlunydd mewn lliwiau y'i cyfrifai ei hun a synnwyd ei gyfeillion gryn dipyn pan droes yn etsiwr a gwneuthur cyfrwng etsio yn brif ddiddordeb iddo'i hun; ei athro, Syr Frank Short, a oedd yn gyfrifol i raddau helaeth am y newid. Dangosodd ei waith yn y Royal Academy am y tro cyntaf yn 1911; yn dilyn hyn cymerodd ei ddiploma yn y Royal College of Art a daeth yn gymrawd o'r Royal Society of Painters-Etchers.
Yn 1911 gofynnodd Syr Alfred T. Davies, ysgrifennydd adran Gymreig y Weinyddiaeth Addysg, iddo wneuthur copi o 'gartŵn' Syr Edwin Poynter o Ddewi Sant ar gyfer y Ceiriog Memorial Institute, Glynceiriog; yn 1913 gwahoddwyd ef gan y Mri. Adam a Charles Black, cyhoeddwyr llyfrau, i wneuthur darluniau ar gyfer yr Oxford Sketch Book - y cyntaf o gyfres o ddarluniau pensil cain a choeth a atgynhyrchwyd mewn cyfrolau a oedd yn delio ag Eton a Windsor, Florence, Venice, Rhufain, etc., ac a fu'n bur boblogaidd. Yr oedd gan Richards allu arbennig i lythrennu; yn hyn o beth amlygodd fedr neilltuol wrth gyfaddasu teip Rhufeinig colofn Trajan (yn Rhufain) at wasanaeth argraffu. Cynlluniodd lawer o lyfrynnau Dydd Gŵyl Dewi i'r Weinyddiaeth Addysg, rholau anrhydedd, tystysgrifau a roddid i filwyr gan yr Army Council, a gwnaeth waith dros y Baynard Press. Yn 1918 paratodd adroddiad i Fwrdd Canol Cymru ar ddysgu celf yn ysgolion canolraddol Cymru. Ymunodd â staff y College of Art yn 1920, a rhoddi cyrsiau yno i rai a fwriadai fynd yn athrawon ysgol. Yn 1927 gadawodd y College of Art a gwneuthur yr Aifft yn bencadlys iddo'i hun am bedair blynedd. Bu'n gweithio ar bynciau a golygfeydd yn y Dwyrain Canol, a chynnal arddangosfeydd yn Alexandria a Teheran; rhoes 21 o'i ddarluniau ('etchings') o'r Dwyrain i'w dref enedigol. Dychwelodd i Lundain yn Hydref 1931, ac ymhen ychydig wythnsau ysgrifennodd A Persian Journey; yr oedd y gwaith hwn, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd, yn cynnwys 48 o ddarluniau a wnaethpwyd ganddo yn ystod y naw mis a dreuliodd yn Persia. Profodd y teithio drwy'r awyr ac ar gefnau camelod, a'r prysurdeb wrth baratoi ei lyfr, yn ormod o straen ar ei nerth, a bu farw yn yr Hampstead General Hospital ar 27 Mawrth 1932.
Yr oedd Richards yn wir arlunydd, yn byw bywyd syml mewn fflat yn Chelsea; yr oedd yn ŵr hynod o garedig a phawb yn hoff ohono. Fe'i coffheir gan enghreifftiau o'i waith yn y Newport Art Gallery, yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, ac yn y Victoria and Albert Museum, Llundain.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.