ROBERTS, ABSALOM (1780? - 1864), bardd a chasglwr penillion telyn

Enw: Absalom Roberts
Dyddiad geni: 1780?
Dyddiad marw: 1864
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd a chasglwr penillion telyn
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Barddoniaeth
Awdur: Robert Roberts

Ganwyd yn Trefriw, Sir Gaernarfon. Crydd ydoedd wrth ei alwedigaeth. Priododd ddwy waith a bu iddo 12 o ferched a dau fab; dywedir fod ei ail wraig yn berthynas i deulu Syr Henry Jones (gweler Henry Jones, Old Memories). Aeth i fyw i Eglwysfach, sir Ddinbych; dywedir mai yn ei dy ef yn Eglwysfach y pregethwyd gyntaf gan y Wesleaid.

Bu'n crwydro i ddilyn ei grefft a gweithio ym Mangor, Llanelwy, a Llanfyllin, ond daeth yn ôl i Eglwysfach. Treuliodd ei hen ddyddiau yn Llanrwst; yno yr oedd yn 1844 pan anfonodd 'Ddau englyn i annerch y Parch. Walter Davies' (NLW MS 1746D ) - ac yno y bu farw yn 1864 a chael ei gladdu ym mynwent Sant Grwst (yn ôl ei garreg fedd yr oedd yn 94 mlwydd oed yn marw, eithr tebycach yw mai 84 sydd agosaf at y gwir).

Bu'n ymhel â barddoniaeth ar hyd ei oes, yn enwedig â phenillion telyn. Enillodd y wobr yn eisteddfod Dinbych, 1828, am y ' Casgliad goreu o Benillion Cymreig heb fod yn gyhoeddedig o'r blaen '; casglodd 815 ohonynt. Yn 1845 cyhoeddwyd (yn Llanrwst) ei lyfr, Lloches Mwyneidd-dra yn cynnwys Carolau, Cerddi, ac Englynion, yn nghyd a dau gant o Hen Bennillion Cymreig. Ceir yn rhan gyntaf y llyfr hwn waith Absalom Roberts ei hunan a rhai pethau gan John Roberts, Bryncynlas. Bu'n gyd-fuddugol â ' Wil Ysgeifiog ' (William Edwards) yn eisteddfod Treffynnon, Gwyl Dewi, 1834, ar 'Chwech englyn ar Adsefydliad ffeiriau Treffynnon.' Yn eisteddfod Rhuddlan 1850 bu'n cystadlu ar gasgliad o benillion telyn, ond John Jones ('Idris Fychan') a orfu, a chasgliad Absalom Roberts yn cael ei ddyfarnu'n ail. Ysgrifennai'n aml i'r Gwyliedydd, Y Gwladgarwr (e.e. 1837 a 1841), a'r Eurgrawn Wesleyaidd, a cheir llawer o englynion anerchiadol ganddo mewn llyfrau a gyhoeddid yn Llanrwst (e.e. Gwaith Eos Gwynedd).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.