ROBERTS, WILLIAM CHARLES (1832 - 1903), gweinidog gyda'r Presbyteriaid yn U.D.A., prifathro colegau, ac awdur

Enw: William Charles Roberts
Dyddiad geni: 1832
Dyddiad marw: 1903
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Presbyteriaid yn U.D.A., prifathro colegau, ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert (Bob) Owen

Ganwyd yn Galltmai, plwyf Llanilar, Sir Aberteifi - yr oedd yn nai i'r prifathro Lewis Edwards, y Bala. Yn 1849 ymfudodd gyda'i rieni i U.D.A. Bu'n gwasnaethu mewn masnachdy yn New Jersey am ddwy flynedd cyn myned i Brifysgol Princeton, lle y graddiodd yn 1855, a mynd oddi yno i goleg diwinyddol am dair blynedd; dewiswyd ef yn weinidog eglwys Bresbyteraidd Wilmington, Delaware, yn 1858; bu'n bugeilio amryw eglwysi Presbyteraidd o hynny hyd 1880, pryd y daeth yn brif arolygydd y genhadaeth gartrefol yn Efrog Newydd. Yn 1886 dewiswyd ef yn llywydd Prifysgol Lake Forest, Illinois, ac yn 1893 daeth yn llywydd Centre College, Danville, Kentucky. Yn 1889 dewiswyd ef yn gymedrolwr cymanfa gyffredinol y Presbyteriaid. Cyhoeddodd tuag 11 o lyfrau (gweler y teitlau yn argraffiad Ll.G.C. o lyfryddiaeth Gymraeg-Americanaidd Henry Blackwell); ef oedd cyfieithydd Holwyddoreg Byrraf Eisteddfod Westminster, 1864. Bu farw 28 Tachwedd 1903.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.