ROBERTS, RICHARD ('Gruffydd Rhisiart', 1810 - 1883), llenor a phregethwr gyda'r Annibynwyr

Enw: Richard Roberts
Ffugenw: Gruffydd Rhisiart
Dyddiad geni: 1810
Dyddiad marw: 1883
Rhiant: Mary Roberts (née Breese)
Rhiant: John Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llenor a phregethwr gyda'r Annibynwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Richard Griffith Owen

Ganwyd 5 Tachwedd 1809 yn y Diosg, Llanbrynmair, mab ieuengaf John Roberts (1767 - 1834). Addysgwyd ef yn ysgol ei dad a dygwyd ef i fyny yn amaethwr, ac ef a fu â gofal y tyddyn gan mwyaf, ond fel ei frodyr 'S.R.' a 'J.R.' ymddiddorai gryn lawer mewn llenora. Brithid cylchgronau'r cyfnod, yn arbennig y Cronicl (a olygid gan ei frodyr), gan ysgrifau a chaneuon o'i eiddo. Yn 1855 cyhoeddodd nofel a anfonasai i eisteddfod, ond nas gwobrwywyd, o'r enw Jeffrey Jarman, y Meddwyn Diwygiedig. Meddai arddull gartrefol a rhwydd, nes peri bod ei gynhyrchion yn ddarllenadwy ddigon, a cheid min ar ei ddychanu. Ymfudodd ef a'i briod a'i ferch i Tennessee yn 1856, ac aeth 'S.R.' ato yn 1857. Buont yno'n amaethu am tua 15 mlynedd. Rhwng cynllwynion y rhai a 'werthodd' y tir iddynt a helynt y Rhyfel Cartrefol, cawsant yno brofiadau chwerwon iawn a buont mewn perygl am eu heinioes laweroedd o weithiau. Yn 1872 dychwelodd y ddau i Gonwy, lle'r oedd eu brawd 'J.R.' yn weinidog. Bu farw 'G.R.', fel y gelwid ef, 25 Gorffennaf 1883, a chladdwyd ef ym mynwent gyhoeddus Conwy.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.