Ganwyd 24 Mai 1840 yn Tanysgafell, Bethesda, Sir Gaernarfon. Yn 12 oed bu farw ei dad, a bu raid iddo fynd i weithio i'r chwarel. ' Eos Llechid ' a ddysgodd iddo elfennau cerddoriaeth a chaniadaeth, a chymerodd Henry Samuel Hayden, athro coleg hyfforddi Caernarfon, ddiddordeb ynddo oherwydd ei ddoniau arbennig, ac aeth am gwrs o addysg i'r coleg yn 14 oed. Oherwydd ei lwyddiant gyda'i efrydiau apwyntiwyd ef yn athro cynorthwyol yn y coleg, ac wedi marw'r athro apwyntiwyd ef yn olynydd iddo. Yn 1866 penodwyd ef yn is-organydd eglwys gadeiriol Bangor, ac yn ddiweddarach, wedi marw'r organydd, yn organydd, a daliodd y swydd hyd ei farwolaeth. Ef oedd unig Gymro 'r cyfnod a ddaliodd y swydd o organydd yn eglwys gadeiriol Bangor. Yr oedd yn chwaraewr medrus ar y piano, y ffidil, a'r sielo. Cyfansoddodd nifer mawr o ddarnau cerddorol. Bu ei ganig ' Y Gwlithyn ' yn boblogaidd, a hefyd ' Tynnwn ein rhwyfau yn gryf.' Cyfansoddodd gantawd, ' Gwarchae Harlech,' a cheir tonau o'i waith yn Llyfr y Psalmau (' Alawydd ') a Llyfr Tonau ac Emynau (Stephen). Bu farw Chwefror 1871 a chladdwyd ef ym mynwent Glanadda, Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.