Ganwyd 1 Gorffennaf 1828 yn Nowlais, yn fab i Daniel Roberts, gweinidog eglwys Annibynnol Bryn Seion (Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru, ii, 280-1). Aeth i ysgol Ffrwd-y-fâl, ac oddi yno (1845) i Coward College yn Llundain; ond symudodd oddi yno bron ar unwaith i Goleg Caerfyrddin. Cafodd ysgoloriaeth y Dr. Williams yn 1850, ac aeth i Glasgow, lle y bu am dair blynedd, gan ennill medal mewn Lladin; ond torrodd ei iechyd ac ymadawodd heb radd. Yr oedd o duedd bruddglwyfus, ac ni hoffai bregethu - nid ystyrid mohono chwaith yn bregethwr. Felly, wedi bwrw peth amser fel athro mewn ysgolion yn Lloegr, agorodd ysgol ramadeg yng Nghaerdydd. Yn 1856, ar farw'r athro Edward Davies, etholwyd ef yn athro ieithoedd yn Aberhonddu. Bu'n gyd-olygydd i'r Y Beirniad o 1859 hyd 1872. Torrodd ei feddwl i lawr yn 1872, a bu farw yn Malvern 9 Mawrth 1872.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.