Ganwyd yn y Garth, Llanfair Dyffryn Clwyd. Argyhoeddwyd ef dan weinidogaeth Edward Jones, Bathafarn yn 1800, ac yr oedd felly yn un o ysgubau blaenffrwyth y genhadaeth Wesleaidd Gymraeg. Dechreuodd bregethu tua 1803 a galwyd ef i'r weinidogaeth deithiol yn 1805. Gwasnaethodd ar gylchdeithiau Dinbych (1805), Caernarfon (1806-7), Llandeilo (1808), Caerffili (1809-10), Llanidloes (1811), Llundain (1812-3), Aberhonddu (1814, dwyieithog), Caernarfon (1815), Caergybi a Biwmares (1816-7), Machynlleth a Dolgellau (1818), y Drefnewydd (1819-20, Saesneg), ac wedi hynny ar gylchdeithiau yn Lloegr hyd ei farw yn Darlington yn Ionawr 1824. Yr oedd ganddo ddiddordebau eang, ac adlewyrchir hynny yn Yr Eurgrawn Wesleyaidd dros dymor ei olygyddiaeth (1812-4). Ar wahân i'w ysgrifau yn y cylchgrawn hwnnw, cyhoeddodd Cyfiawnhad trwy Ffydd, 1818, a golygodd argraffiad 1812 o lyfr emynau ei gyfundeb, ac, mewn rhan, argraffiad 1817. Ef a etholwyd yn gadeirydd y dalaith Gymraeg (1816-8) ar ôl Owen Davies. Dywedir ei fod yn un o bregethwyr mwyaf dylanwadol Wesleaeth Gymraeg gynnar.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.