Ganwyd yn ardal Llanfyllin yn 1832. Bwriadai'r Parch. Richard Richards (gweler Richards, Thomas) wneud clerigwr ohono, ond bu hwnnw farw. Yn 1859 ymunodd Henry Rowlands â heddlu sir Ddinbych. Bu'n heddgeidwad yng Nghefn Mawr, Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Llansilin, a Llandegla. Ymddiswyddodd yn 1891 a symud i Langollen i fyw. Gwnaethpwyd ef yn gyfieithydd swyddogol i'r llysoedd yn Wrecsam, 1893, swydd a ddaliodd hyd Fai 1902. Bu farw yn ei gartref yn Abbey Road, Llangollen, 28 Ionawr 1903, yn 70 oed. Ysgrifennodd lawer i wahanol gylchgronau megis yr Haul, Y Cyfaill Eglwysig, Y Cronicl, Yr Eurgrawn, Y Winllan, ac ysgrifennai'n gyson i Bye-Gones o'i ddechreuad hyd 1901. Drwy gyfrwng ei lafur ef yn y Wasg y cafwyd cofgolofn i Huw Morys yn Llansilin. Y mae amryw o'i emynau yn Emyniadur yr Eglwys. Efelychiadau o'r Saesneg yw llawer o'i farddoniaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.