Ganwyd 17 Hydref 1852 yng Nghaerfyrddin. Derbyniodd ei addysg yn ysgol elfennol Caerfyrddin ac wedi hynny cafodd gwrs o addysg gan y Parch. Lewis Lewis, a chan Alcwyn Evans. Dechreuodd ddysgu nodiant y Tonic Sol-ffa yn ieuanc, a chafodd amryw dystysgrifau. Yn 17 oed cadwai ddosbarth i ddysgu Tonic Sol-ffa yng Nghaerfyrddin, Felin Wen, ac Abergwili. Yn 1869 dewiswyd ef yn arweinydd côr undebol Caerfyrddin. Enillodd holl dystysgrifau Coleg y Tonic Sol-ffa, a chafodd y radd o L.T.S.C. a gwnaed ef yn aelod o gyngor y coleg. Bu am gyfnod yng Ngholeg Aberystwyth o dan addysg Dr. Joseph Parry.
Cyfansoddodd nifer o donau, anthemau, a darnau cerddorol. Bu ' Storm the Fort of Sin,' ei anthemau ' Mor hawddgar yw Dy bebyll ' ac ' O'r dyfnder y llefais,' a'i bedwarawd, ' Y Deigryn,' yn boblogaidd. Cydolygodd Llawlyfr Moliant y Bedyddwyr, ac efe a drodd i'r Sol-ffa gasgliad o donau ' Elis Wyn o Wyrfai.' Bu'n byw yn Tŷ Du, sir Fynwy, Abertawe, a Chaerdydd. Arweiniodd lawer o gymanfaoedd canu.
Yng ngŵyl y plant a gynhaliwyd yn Neuadd y Parc, Caerdydd, 23 Chwefror 1917, arweiniai dros 500 o blant i ganu ' Ymdeithio'r ym tua Seion,' ac wedi canu eisteddodd ar y llwyfan a bu farw. Claddwyd ef ym mynwent gyhoeddus Aberystwyth, 28 Chwefror 1917.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.