Yn ôl achau cynnar yr oedd yn disgyn o Ceredig ap Cunedda Wledig, sef y gŵr y tybir mai ef oedd rheolwr Brythonig Ceredigion ac y galwyd y diriogaeth honno ar ei enw. Ar y cyntaf rheolai dros Geredigion yn unig ond yn ddiweddarach ychwanegodd y rhannau hynny o hen Ddyfed a elwir yn Cantref Mawr, Cantref Bychan, a Chantref Eginog, neu, gyda'i gilydd, Ystrad Tywi. O'r herwydd rhoddid yn fynych yr enw Seisyllwg i'r tiriogaethau helaethach hyn a grewyd gan Seisyll, sef ' Deheubarth ' cyfnod canol y Canol Oesoedd a feddiannid gan ddisgynyddion Cadell ap Rhodri Mawr. Cadwyd parhad teyrnol y diriogaeth hon trwy briodas Rhodri ag Angharad, chwaer Gwgon ap Meurig, brenin olaf hen linach Seisyllwg (bu farw 871) - yr oedd Gwgon ac Angharad yn or-or-ŵyrion Seisyll.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.