SYPYN CYFEILIOG, fl. 1340-90, bardd

Enw: Sypyn Cyfeiliog
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: David Myrddin Lloyd

Ei gân enwocaf yw'r ‘awdl unnos’ i Ddafydd ap Cadwaladr o Fachelldref, ger Church Stoke, sy'n gorffen a'r llinellau adnabyddus, ‘Dyred pan fynnych, cymer a welych, a gwedi delych, tra fynnych trig.’ Dywedir yn y llawysgrifau mai awdl fyrfyfyr ydyw, y gorfodwyd y bardd i'w chanu am ei groeso pan drodd i mewn i dŷ Dafydd am loches o'r storm, a chael bod gwledd ymlaen yno. Fe'i canwyd cyn 1400 gan ei bod i'w chael yn ‘Llyfr Coch Hergest,’ o dan un o'r amrywiol enwau a ddodir ar y bardd hwn, sef Dafydd Bach ap Madog Wladaidd. Dywedir yn y llawysgrifau hefyd mai'r un bardd yw Cnepyn Gwerthrynion a Bach Buddugre. Ond y mae'n sicr i fardd gryn ysbaid o'i flaen ddwyn yr enw Cnepyn Gwerthrynion, oblegid fe sonnir amdano gan Wilym Ddu o Arfon. Awgryma Ifor Williams mai ‘cymysgu tri bardd bach a wnaethpwyd,’ sef y Cnepyn, Bach Buddugre, a Sypyn Cyfeiliog. Y mae gan y Sypyn gywydd moliant i Harri Salbri (bu farw 1400) a'i wraig Annes Kwrtes (h.y. Courtois), a hefyd y ddau gywydd o'i waith a roddir yn Iolo Goch ac Eraill. Cyfeirir at y bardd hwn gan Gruffudd Llwyd (c. 1385) yn ‘Cywydd y Cwest,’ a hefyd yn ‘Araith Iolo Goch’ (gweler Areithiau Pros, 12-7).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/