CNEPPYN GWERTHRYNION, pencerdd a gramadegydd o'r 13eg ganrif

Enw: Cneppyn Gwerthrynion
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pencerdd a gramadegydd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: David Myrddin Lloyd

fel y mae debycaf, er na cheir, hyd y gwyddom, ddim o'i waith yn aros. Gwelir y cyfeiriad cynharaf ato gan Wilym Ddu o Arfon (bardd a ganai yn 1322) yn ei awdl farwnad i Drahaearn Brydydd (M.A. 277b 12/13), lle'r enwir y Cneppyn ymhlith nifer o brifeirdd y 13eg ganrif, gan honni mai i olyniaeth y 'blaid penceirddiaid' hyn yr oedd Trahaearn yn perthyn. Gellir casglu o hyn ei hanfod (sef Cneppyn) o Werthryniawn (yn ' sir Faesyfed'), a bod ei gerdd yn ' Ladin gyfiawn,' sef yn ôl safonau rhetoreg Lladin ei gyfnod.

Mewn rhai llawysgrifau ceir yr enw Cneppyn Gwerthryniawn fel un o nifer o lysenwau ar Sypyn Cyfeiliog neu Ddafydd Bach ap Madog Wladaidd, ond gan fod y Dafydd hwn yn canu yn ddiweddar yn y 14eg ganrif, ni ddichon mai ef oedd y Cneppyn gwreiddiol (gweler I.G.E., arg. 1925, clxvii et seq.).

Yn Cardiff MS. 38, sef copi o'r ' Pum Llyfr Kerddwriaeth ' yn llaw Wiliam Cynwal, ac mewn copïau eraill ohonynt o'r 16eg ganrif, sonnir am ' Cnypyn Gwerthryniawn ' (neu Werthryniawc) fel gramadegydd, a'i enwi o flaen Dafydd Ddu Athro. Gan fod gramadeg y beirdd yn seiliedig ar y 'ddwned' Ladin, y mae hyn yn hawdd ei gysoni â thystiolaeth Gwilym Ddu, ac yn awgrymu bod gramadeg Cymraeg sgrifenedig yn nwylo'r penceirddiaid cyn gynhared â'r 13eg ganrif o leiaf (gweler G. J. Williams, Gramadegau'r Penceirddiaid, xx-xxi).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.