TATHAN (Tathai, Llad. Tatheus), sant, fl. yn y 5ed ganrif

Enw: Tathan
Rhiant: Tathalius
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: sant
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Harold Idris Bell

Ceir ei fuchedd yn y B.M. MS. Cotton Vespasian A. xiv; ym muchedd Cadog, lle'r ymddengys hefyd, enwir ef Meuthi (yr un ydyw'r ddau enw; ymddangosant yn wahanol oherwydd atodi'r blaenddodau anrhydeddus 'mo' a 'to' a'r olddodiad anwesog 'an'). Ganed ef, fe ddywedir, yn Iwerddon, yn fab y brenin Tathalius (Tuathal). Y mae dyddiad Tuathal Maelgarb (532-544) yn rhy ddiweddar; y mae'n bosibl i'r Tathalius hwn deyrnasu, nid yn Iwerddon, ond ymhlith Gwyddyl Gogledd Cymru. Chwedlonol ydyw'r mwyafrif o'r manylion a geir yn y fuchedd, ond y mae'n glir mai yng Ngwent yr ymsefydlodd Tathan, ac i Garadog, brenin y ddwy Went, roddi iddo dir yng Nghaerwent, ac iddo yntau sefydlu yno ysgol a mynachlog. Yr oedd Cadog, mab y brenin Gwynllyw, yn ddisgybl iddo. 26 Rhagfyr yw ei ddydd gŵyl (ond yn yr English Martyrology 23 Tachwedd). Ef yw nawddsant Caerwent, ac, yn ei enw Meuthi, y ddiflanedig Lanfeithin ym mhlwyf Llancarfan.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.