Fe wnaethoch chi chwilio am *
Ganwyd 15 Mawrth 1873 yn Ystalyfera, mab Jenkin Thomas. Yn 1911 pan dderbyniwyd ef i Orsedd y Beirdd yn eisteddfod Caerfyrddin y cymerodd Vaughan i'w enw. Bu yn ysgol Watcyn Wyn yn Rhydaman, ac yn ystod 1873-1883 bu'r teulu'n byw yn Ystalyfera, Llantrisant, Maesteg, Llangennech a Dowlais. Symudodd y teulu i Bontarddulais a derbyniodd Vaughan Thomas ei addysg gerddorol gynnar o dan Dr. Joseph Parry, Abertawe. Aeth i Goleg Llanymddyfri ac ennill ysgoloriaeth agored mewn mathemateg yng Ngholeg Exeter, Rhydychen, lle y graddiodd yn y 3ydd dosb. yn 1895, M.A. 1905, B.Mus. 1906, D.Mus. 1911. Ar ôl gadael Rhydychen bu'n athro mathemateg yn yr United Services College, Westward Ho! cyn dychwelyd i Gymru i gychwyn ar ei yrfa gerddorol. Priododd, 1906, â Morfydd Lewis, Pontarddulais, a bu iddynt dri mab. Un o'u meibion oedd y darlledwr Wynford Vaughan-Thomas. Bu'r teulu'n byw yn Abertawe am lawer o flynyddoedd. Aflwyddiannus fu ei gais i'w benodi'n Gyfarwyddwr Cerdd Prifysgol Cymru yn 1919. Yn 1927 dewiswyd ef yn arholydd mewn gwledydd tramor i Trinity College of Music, Llundain; golygodd hynny iddo drafaelio llawer yng ngwledydd yr Ymerodraeth Brydeinig, etc. Bu farw yn Johannesburg, De Affrica, 15 Medi 1934.
Ymhlith ei brif weithiau y mae ' Llyn y Fan,' a berfformiwyd gyntaf yn yr eisteddfod genedlaethol, Abertawe, 1907, ac wedyn yn Wrecsam yn 1912; 'A Song for St. Cecilia's Day' (Queen's Hall, Llundain, 1909); a ' The Bard ' (Queen's Hall, Llundain, 1912). Ysgrifennodd nifer fawr o anthemau, caneuon, a rhanganau, i eiriau Cymraeg a Saesneg; gadawodd hefyd ar ei ôl lawer o gerddoriaeth offerynnol, y rhan fwyaf ohono heb ei gyhoeddi eto.
Fel cyfansoddwr cofir am Vaughan Thomas oblegid y gwreiddioldeb a'r ysgolheictod a welir yn ei osodiadau o farddoniaeth Gymraeg, yn enwedig yn ei ' Saith o Ganeuon.' Er nad ydynt mor adnabyddus, y mae ei osodiadau o ganeuon Saesneg George Meredith yr un mor nodedig am eu prydferthwch telynegol. Yr oedd Vaughan Thomas yn arloeswr yn y mudiad i arwain cerddoriaeth Cymru ymlaen o goralaeth gyfyngedig i ymarferiad mwy sensitif ac i ymhoffi mewn ffurfiau cerddorol eraill. Yn ei ddarlithiau a'i ddatganiadau cerddorol, ac yn ei waith yn awgrymu a chynllunio programau ar gyfer yr eisteddfod genedlaethol, rhoes arweiniad gref i gyfeiriad safonau newydd.
Trwythir cerddoriaeth Vaughan Thomas gan frwdfrydedd ei hoffter o elfennau cynhenid y diwylliant cenedlaethol, a'u mynegiant arbennig mewn cerddoriaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.