THOMAS, DAVID WALTER (1829 - 1905), clerigwr

Enw: David Walter Thomas
Dyddiad geni: 1829
Dyddiad marw: 1905
Priod: Anna Thomas (née Fison)
Plentyn: Evan Lorimer Thomas
Rhiant: Margaret Thomas
Rhiant: Evan Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Iorwerth Ellis

Ganwyd 26 Hydref 1829, mab hynaf Evan Thomas o'r Bontfaen, Cellan, Sir Aberteifi, a Margaret ei wraig. Addysgwyd ef yn y Mwmbwls, Abertawe, ac yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan, ac ymaelododd ym Mhrifysgol Rhydychen o Goleg Iesu, 10 Mehefin 1847. Yr oedd yn ysgolor o'i goleg ac yn 'Powis Exhibitioner.' Cafodd anrhydedd yn y trydydd dosbarth yn y clasuron, a graddio B.A. yn 1851 ac M.A. yn 1854.

Ordeiniwyd ef yn ddiacon gan yr esgob Wilberforce o Rydychen, 1852, ac yn offeiriad gan yr esgob Bethell o Fangor, 1853. Bu'n gurad Deneio (Pwllheli) a Llannor, 1853, ac yn gaplan yn Nhremadoc, 1854-5; ar 13 Awst 1855 penodwyd ef yn gurad parhaus Penmachno. Ar 14 Mawrth 1860 penodwyd ef yn ficer S. Ann, Mynydd Llandygai, a bu yno am 34 mlynedd. Yna, ar ôl blwyddyn yn ficer Braunston, swydd Northampton, dychwelodd i Gymru, Awst 1895, yn ficer Caergybi. Bu farw 27 Rhagfyr 1905, a'i gladdu yng Nghaergybi.

Trwy ei ymdrechion ef yn bennaf y sefydlwyd eglwys Gymraeg yn y Wladfa, Patagonia, a gwr o Lasinfryn, Hugh Davies, oedd y caplan cyntaf yno. Ysgrifennodd Thomas nifer o weithiau yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn eu plith gyfres o bregethau ar y gwyrthiau, a bu'n gefnogwr cyson i'r Wasg Eglwysig Gymraeg. Yr oedd yn ganon yn eglwys gadeiriol Bangor.

Yn 1871 priododd Anna Fison ('Morfudd Eryri'), a magwyd eu plant (dau fab a thair merch) yn Gymry da. Un o'i meibion oedd yr offeiriad a'r ysgolhaig Evan Lorimer Thomas.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.