THOMAS, EVAN LORIMER (1872 - 1953), offeiriad ac ysgolhaig

Enw: Evan Lorimer Thomas
Dyddiad geni: 1872
Dyddiad marw: 1953
Priod: Mary Thomas (née Rice-Williams)
Rhiant: Anna Thomas (née Fison)
Rhiant: David Walter Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: offeiriad ac ysgolhaig
Maes gweithgaredd: Crefydd; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: David Trevor William Price

Ganwyd 21 Chwefror 1872, mab David Walter Thomas, ficer S. Ann, Llandygâi, Sir Gaernarfon, a'i wraig Anna ('Morfudd Eryri'). Addysgwyd ef yn Ysgol Westminster ac yng Ngholeg Iesu, Rhydychen. Yr oedd yn ysgolor o'i goleg, fel ei dad. Cafodd hyfforddiant am urddau sanctaidd yn Ysgol y Clerigwyr, Leeds. Bu'n gurad eglwys y Santes Fair, Bangor, 1897-98, Wrecsam, 1898-1900, Cuddesdon, swydd Rhydychen, 1901-02, a Bae Colwyn, 1902-03. Priododd Mary Rice-Williams, Caergybi, yn 1903 ac yr oedd un mab o'r briodas.

Yn 1903 daeth yn Athro'r Gymraeg yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Yma llafuriai'n galed i sicrhau lle'r iaith yn y cwricwlwm ac ym mywyd y coleg. Ailddechreuodd gwrs anrhydedd yn y Gymraeg, sefydlodd Lyfrgell Gymraeg, gan gynnwys Casgliad Cenarth a brynwyd gan y coleg yn 1904, a dechreuodd er mwyn y myfyrwyr Cymraeg Gymdeithas y Brythoniaid a oedd yn cyfarfod bob yn ail nos Sadwrn yn ei dy heb air o Saesneg. Ar brynhawn Sul cynhaliai ddosbarth Beiblaidd yn Gymraeg i'r myfyrwyr. Symudodd yn 1915 i swydd ficer Holywell, ac yn 1922 i'r un swydd ym mhlwyf Tywyn, Abergele. Cyhoeddodd esboniadau Cymraeg ar Efengyl Luc yn 1920 ac 1922 ac ar 1 Corinthiaid yn 1934. Daeth yn archddiacon Maldwyn a ficer Llansantffraid-ym-Mechain yn 1938. Ymddeolodd yn 1944 ac aeth i fyw yn Llanfairfechan.

Dyn addfwyn a chadarn ydoedd, yn cael adloniant ym mhob math o chwaraeon, ond yn arbennig drwy bysgota ac mewn ornitholeg. Bu farw 9 Ebrill 1953, a'i gladdu yn Sant Seiriol, Caergybi.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.