Ganwyd yn Amlwch yn 1790. Symudodd ei rieni i Fodedern pan oedd yn ieuanc ac arferai yntau fynychu gwasanaethau'r Wesleaid yno. Aeth yn aelod atynt a bu'n pregethu gyda hwy am gyfnod byr. Ef aedd y pregethwr cyntaf a godwyd gan y Wesleaid ym Môn. Cyfrwywr oedd wrth ei alwedigaeth. Symudodd i Aberffraw yn 1814 ac yna yn 1830 i Gaergybi. Yn 1842 cyhoeddodd gyfrol fechan, Ffrwyth Myfyrdodol (Caernarfon), sef casgliad o emynau. Yn 1860 casglodd ynghyd gyfrol arall ond bu farw cyn iddi ddod o'r wasg ac fe'i cyhoeddwyd yn 1862 dan yr enw Ehediad y Meddwl (Caernarfon), sef casgliad o ddarnau barddonol, emynau, a marwnadau yn bennaf, gyda chofiant byr iddo gan W. H. Evans. Ceir un emyn o'i waith yn argraffiadau'r 19fed ganrif ddiwethaf a dechrau'r 20fed ganrif o lyfr emynau'r Wesleaid. Y mae ganddo un emyn, ' Dymuniad y claf i osgoi angau,' â'r un syniadau drwyddo ag a geir gan Evan Evans ('Ieuan Glan Geirionydd') yn ' Ar lan Iorddonen ddofn.' Awgrymwyd mai'r un emyn Saesneg yw sail y ddwy. Bu farw 8 Medi 1861.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.