VAUGHAN, EDWARD (bu farw 1661), 'Master of the Bench of the Inner Temple'

Enw: Edward Vaughan
Dyddiad marw: 1661
Rhiant: Catherine ferch Morrice ap Robert
Rhiant: Owen Vaughan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: 'Master of the Bench of the Inner Temple'
Maes gweithgaredd: Cyfraith
Awdur: William Llewelyn Davies

Ceir manylion pur lawn am ei yrfa yn yr erthygl gan Rees L. Lloyd a enwir isod; braslun byr sydd yma, felly, o'r hyn a geir yn honno. Pedwerydd mab ydoedd i Owen Vaughan, Llwydiarth, Sir Drefaldwyn, a'i wraig Catherine, unig aeres Maurice ap Robert, Llangedwyn - gweler yr erthygl ar deulu Vaughan, Llwydiarth. Fel ei dri brawd hŷn - John Vaughan, Syr Robert Vaughan, a Roger Vaughan - aeth i'r Inner Temple, lle y derbyniwyd ef 12 Tachwedd 1618 - ond nis galwyd i'r Bar hyd 17 mlynedd yn ddiweddarach. Bu â chyfran mewn cyfres o achosion cyfreithiol a barhaodd am tua 30 mlynedd - y tro cyntaf i gyd pan hawliodd ef stad yn siroedd Trefaldwyn, Meirionnydd, a Dinbych, a drosglwyddasid iddo gan ei frawd, Syr Robert Vaughan, drwy ddogfen gyfreithiol ym mis Chwefror 1622, a gweddw Syr Robert, sef Catherine, ferch William Herbert, arglwydd Powis, yn gwrth-hawlio. Ym mis Chwefror 1625/6 dewiswyd ef yn aelod seneddol dros Feirionnydd. Yr oedd o blaid y Senedd yn y Rhyfel Cartrefol, ac arweiniodd hynny ef i ychwaneg o helynt - plaid y brenin yn ei gyhuddo o amryw droseddau, yn eu plith iddo wrthwynebu y Commission of Array a anfonwyd i sir Ddinbych yn haf 1642. Ym mis Hydref 1646 etholwyd ef i'r Senedd dros sir Drefaldwyn; ar ôl hynny, hefyd, daeth rhagor o dreialon i'w ran. Ar 6 Rhagfyr 1648 cymerwyd ef i'r ddalfa yn ' Pride's Purge ' a'i gadw yng ngharchar hyd y deuddegfed dydd o'r mis; gorfu iddo ateb wedyn i ychwaneg o achwynion. Wedi marw Oliver Cromwell daeth amgenach tro ar bethau iddo. Ym mis Ionawr 1658/9 etholwyd ef eilwaith dros sir Drefaldwyn; ym mis Tachwedd yr un flwyddyn, sef 1659, daeth yn ' Associate to the Board ' yn yr Inner Temple. Hyd yn oed wedi'r Adferiad daethpwyd ag ychwaneg o gyhuddiadau yn ei erbyn eithr ni pharodd y rheini iddo fethu cael ei ethol dros sir Drefaldwyn ym mis Mai 1661. Bu farw yn Llundain ddiwedd y flwyddyn honno a chladdwyd ef yn y Temple Church ar 8 Hydref. Nid oedd yn briod.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.