Ail fab (ac, o 1654, aer) Henry Vaughan, Gelligoch, Machynlleth, a'i wraig Mary, merch Maurice Wynn, Glyn, gerllaw Harlech. Aeth i Ysgol Amwythig ym mis Gorffennaf 1615, derbyniwyd ef i Gray's Inn, 13 Awst 1638, a daeth yn fargyfreithiwr ar 20 Mehefin 1648. Yn y cyfamser bu'n cynorthwyo plaid y Senedd, e.e. ym mis Mehefin 1644 fe'i hetholwyd yn aelod o bwyllgor siroedd Aberteifi, Penfro, a Chaerfyrddin. Ceisiodd gael ei ddewis yn aelod seneddol dros sir Feirionnydd yn 1654, eithr John Vaughan, Cefnbodig, a ddewiswyd, ac anfonodd Vaughan betisiwn yn erbyn yr ethol; ceir cnewyllyn yr hanes yn W. R. Williams, Hist. of the Great Sessions in Wales, wedi ei seilio ar Calendar of State Papers, Domestic Series, 1654. Ychydig cyn hynny, sef ar 18 Awst 1653, dewisasid Vaughan i swydd dirprwy-glerc llysoedd Sesiwn Fawr Cymru yn siroedd Dinbych a Threfaldwyn. John Edisbury a ddaliai'r swydd cyn dewis Vaughan iddi; gweler y manylion yn Calendar of State Papers, Domestic Series, 1653-4, ac yn W. R. Williams, op. cit. Bu Vaughan yn gwasnaethu'r pwyllgor a oedd yn delio â 'sequestration.' Yn ddiweddarach, sef o tua Mai 1665 hyd 1667 (?), bu yng ngharchar Twr Llundain.
Rice Vaughan oedd awdur y tri gwaith: (a.) A Plea for the Common Laws of England (Llundain, 1651), pamffledyn, cyflwynedig i'r Senedd, yn ateb llyfr gan Hugh Peters a elwid A Good Work for a Good Magistrate; (b.) Practica Walliae: or the Proceedings in the Great Sessions of Wales: containing the Method and Practice of an Attorney there, from an Original to its Execution. Whereunto is added, The Old Statute of Wales at large; And an Abridgement of all the Statutes uniting Wales to England: with Tables of the Fees, and the Matters therein contained (Llundain, 1672); (c.) A Discourse of Coin and Coinage (Llundain, 1675).
Profwyd ei ewyllys yn 1670 (P.C.C.)
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.