WILLIAMS, ABRAHAM (1720-1783), gweinidog gyda'r Annibynwyr

Enw: Abraham Williams
Dyddiad geni: 1720
Dyddiad marw: 1783
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Cerddoriaeth
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn 1720 ym mhlwyf Pant-teg, sir Fynwy - efallai ym Mhontyfelin, lle y ganwyd ei frawd William (isod). Yr oedd yn gerddor, a byddai'n teithio i hyfforddi mewn canu salmau. Tebyg mai Morgan John Lewis a'i dug at grefydd; dechreuodd gynghori gyda'r Methodistiaid, a chydnabuwyd ef fel cynghorwr gan y sasiwn yn Nhrefeca yn 1744. Pan droes seiat y New Inn yn eglwys Annibynnol daeth yntau'n bregethwr cynorthwyol ynddi, ac ar farw M. J. Lewis urddwyd ef (1758) yn weinidog. Priododd â merch o Frynbuga, ac yno yr oedd yn byw. Bu farw 3 Medi 1783 'yn 63 oed,' a chladdwyd yn y tŷ cwrdd a godasai ym Mryn-buga. Ym marn Philip David, serch iddo unwaith (1778) ei gyhuddo o 'rantio,' yr oedd Abraham Williams yn bregethwr da (1775, ddwywaith) a phan gladdwyd ef, tystiai'r hen weinidog (nid heb beth petruster) mai efe oedd yr agosaf i'w le o'r gweinidogion lled-Fethodistaidd ymhlith yr Annibynwyr.

Brawd iddo oedd

WILLIAM WILLIAMS (1717 - 1800), Crefydd

a fu yntau'n gynghorwr Methodistaidd ac wedyn yn bregethwr cynorthwyol yn y New Inn. Tua 1760, penderfynodd seiat yr Aber ym mhlwyf Llanfeigan (Brycheiniog) ddilyn esiampl y New Inn a throi'n eglwys Annibynnol. Rhyddhawyd William Williams gan y New Inn i fod yn weinidog yr Aber; cadwai ysgol yno hefyd. Heblaw hynny, cymerodd fugeiliaeth eglwys y 'Plough' yn Aberhonddu (parhaodd y cyswllt rhwng y ddwy eglwys hyd 1811). Bu farw yn 1800.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.