Fe wnaethoch chi chwilio am osmond williams

Canlyniadau

WILLIAMS (TEULU), Bron Eryri (a elwid Castell Deudraeth yn ddiweddarach), Sir Feirionnydd

DAVID WILLIAMS ('Dewi Heli'; 1799 - 1869), cyfreithiwr, ac aelod seneddol dros sir Feirionnydd

Ganwyd 30 Mehefin 1799 yn Saethon, plwyf Llanfihangel-Bachellaeth, Sir Gaernarfon, mab DAVID WILLIAMS (1754 - 1823) a'i wraig Margaret. Aeth i Lanfyllin at ei frawd John Williams (siryf Meirionnydd, 1841-2), cyfreithiwr, ac yng nghwrs amser bu'n dilyn yr alwedigaeth honno ei hunan, yn bennaf ym Mhwllheli a Phorthmadog; ym Mhorthmadog daeth hefyd yn gyfreithiwr a phen-rheolwr i stad Madocks. Llwyddodd yn fawr, a phrynodd dai a thiroedd, gan ffurfio'r stad yr arferid ei chysylltu â'i blasty a elwid Castell Deudraeth (Bron Eryri gynt; bu ei frawd John Williams yn byw yn Bron Eryri o'i flaen). Fel y gellid casglu oddi wrth ei ffugenw yr oedd iddo beth diddordeb mewn llenyddiaeth; y mae rhai llythyrau a ysgrifennodd at John Thomas ('Sion Wyn o Eifion') ac Ebenezer Thomas ('Eben Fardd') wedi eu cadw yn Cwrtmawr MS 404C . Bu'n glerc yr heddwch yn Sir Feirionnydd, 1842-59, yn un o ddirprwy-raglawiaid y sir honno a Sir Gaernarfon, yn siryf Meirionnydd, 1861-2, a Sir Gaernarfon, 1862-3. Methodd gael ei ddewis yn aelod seneddol (Rhyddfrydwr) dros sir Feirionnydd yn 1859 ac 1865 eithr llwyddodd yn 1868. Priododd, 25 Medi 1841, ag Annie Louisa Loveday (bu farw 16 Mehefin 1904), merch William Williams, bargyfreithiwr, Peniarthucha, Sir Feirionnydd, a bu iddynt deulu lluosog; sylwir yn fyr ar y mab hynaf a'r mab ieuengaf isod. Bu farw 15 Rhagfyr 1869 a chladdwyd ef ym Mhenrhyndeudraeth.

Dilynwyd David Williams yn stad Deudraeth gan ei fab hynaf

(Syr) ARTHUR OSMOND WILLIAMS (1849 - 1927), gwleidydd

Ganwyd 17 Mawrth 1849, crewyd yn farwnig yn 1909, a bu'n aelod seneddol (Rhyddfrydol) dros sir Feirionnydd, 1900-10. Cafodd ei addysg yn ysgol Eton. Daeth yn ustus heddwch ac yn ddirprwy-raglaw yn Sir Gaernarfon, yn gadeirydd sesiwn chwarter ac yn arglwyddraglaw Sir Feirionnydd, ac yn gwnstabl castell Harlech. Priododd, 3 Awst 1880, â Frances Evelyn Greaves, a bu iddynt ddau fab a dwy ferch. Bu farw 28 Ionawr 1927. Bu'r mab hynaf, Osmond Trahaearn Deudraeth Williams (1883 - 1915), yn swyddog ym myddin Prydain yn rhyfel y Boeriaid, daeth yn gapten yn y Welsh Guards yn ystod rhyfel 1914-8, a lladdwyd ef yn 1915 ym mrwydr Loos.

Mab ieuengaf David Williams oedd

LEONARD LLEWELYN BULKELEY WILLIAMS (1861 - 1939), meddyg ac awdur

Ganwyd 2 Hydref 1861 a chafodd ei addysg yn ysgol Marlborough, ym Mhrifysgol Glasgow (lle y graddiodd fel meddyg), ac yn Ffrainc a'r Almaen. Ysgrifennodd erthyglau i gylchgronau meddygol a gwyddonol, ac ysgrifennodd lawer o lyfrau ar feddygaeth heblaw llyfrau yn ymwneuthur â Paris, Sbaen a Sbaeneg; rhestrir rhai o'i ysgrifeniadau yn Who's Who, 1939, ac yn y marw-goffa yn The Times, 21 Awst 1939. Bu farw 20 Awst 1939.

Mab arall i David Williams oedd Edmund Trevor Lloyd Wynne Williams (1859-1946), cyd-sylfaenydd y British Gramophone Company.

Un o ferched David Williams oedd Alice Williams ('Alys Meirion', 1863-1957).

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Canlyniadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.