Ganwyd yn Chwilog, plwyf Llanarmon, yn Eifionydd. Ei dad oedd Thomas Roberts, brawd ' Siôn Lleyn ' (John Roberts, 1749 - 1817), bardd. Pan oedd ' Siôn Wyn' yn 9 oed cyfarfu â damwain trwy gael ei wasgu rhwng cert a gwal gerrig yn ymyl ei gartref. Wedi iddo wella aeth i ysgol Isaac Morris, Pentyrch Isaf, athro ' Eben Fardd ' a ' Dewi Wyn.' Ymhen tair blynedd wedi'r ddamwain cafodd glefyd trwm a'i gadawodd yn wan a methiannus am y gweddill o'i oes. Dywedir iddo dreulio 25 mlynedd o'i oes yn ei wely gan fyw'n gyfan gwbl ar faidd a phosel. Cymerai ddiddordeb mewn llyfrau a cherddoriaeth a dysgodd ddarllen a mwynhau llyfrau Saesneg. Derbyniai'r Critical Review a chyfnodolion eraill yn fenthyg o'r Gwynfryn. Hoffai waith Milton a Cowper a chyfieithodd gân y caethwas o waith Cowper yn Gymraeg. Deuai gwŷr enwog fel Richard Fenton yr hanesydd a Shelley y bardd i ymweled ag ef. Yr oedd yn cael benthyg llyfrau Cymraeg gan ' Dafydd Ddu Eryri ' ac eraill (Adgof uwch Anghof, 42), a chawn iddo anfon awdl ar ' Gerddoriaeth ' i'w beirniadu gan y gŵr hwnnw yn eisteddfod Caernarfon, 1821, ond yr oedd yn rhy hwyr i'r gystadleuaeth. Yn 1808 cymerodd ran mewn cystadleuaeth a drefnwyd gan y Parch. Samuel Rice, prifathro ysgol Bangor. Am awdl ar y testun ' Yr Adgyfodiad ' y gofynnid, ond ysgrifennodd ' Siôm Wyn ' gân ar fesur rhydd a chafodd ei geryddu gan y beirniad ' Dafydd Ddu ' (Golud yr Oes, ii, 160). Un tyner ac addfwyn oedd ' Siôn Wyn,' fel y gellid disgwyl i un a dreuliodd ei oes mewn neilltuaeth fod, ac oblegid hynny y mae yn ei emynau rai sydd yn addas iawn ar gyfer plant, fel ' Mawl Plentyn ' (Gwaith Barddonol, 179). Bu farw 8 Gorffennaf 1859 a chladdwyd ef ym mynwent capel Penlan, Pwllheli.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/