WILLIAMS, ALICE HELENA ALEXANDRA ('ALYS MEIRION') (1863-1957), llenor, artist a gwirfoddolwraig les

Enw: Alice Helena Alexandra Williams
Ffugenw: Alys Meirion
Dyddiad geni: 1863
Dyddiad marw: 1957
Partner: Fanny Mowbray Laming
Rhiant: David Williams
Rhiant: Annie Louisa Williams (née Williams)
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: llenor, artist a gwirfoddolwraig les
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Dyngarwch
Awdur: Ceridwen Lloyd-Morgan

Ganwyd Alice Williams yng Nghastell Deudraeth, Penrhyndeudraeth, Meirionnydd, ar 12 Mawrth 1863, yr ieuengaf o saith merch a phum mab David Williams (1799-1869), tirfeddiannwr, ac Annie Louisa Loveday (née Williams, bu farw 1904), o Beniarth Ucha, Meirionnydd.

Radicaliaid oedd y teulu, a thad Alice Williams oedd y Rhyddfrydwr cyntaf i'w ethol yn AS Meirionnydd; dilynodd ei brawd, Syr Arthur Osmond Williams, y barwnig cyntaf, ei dad fel AS Rhyddfrydol Meirionnydd yn 1900, a bu'n gefnogwr brwd i ymgyrch y bleidlais i ferched. Er gwaethaf daliadau gwleidyddol y teulu a'r pwyslais a roddid ar addysg, go gyfyng oedd yr addysg a dderbyniodd Alice, a hynny gartref. Fel y ferch ieuengaf disgwylid iddi aros yn ddi-briod a gofalu am ei mam pan symudodd hithau i Lundain yn fuan ar ôl colli ei gŵr. Yno y dechreuodd Alice Williams, oedd yn ferch fywiog a deallus, ddatblygu ei dawn fel actores amatur ac fel awdur cerddi a dramâu ysgafn. Hogodd yn ogystal ei medrau arlunio, gan addurno ei llythyrau â darluniadau bywiog a thynnu brasluniau o achlysuron megis eisteddfodau a chyfarfodydd ymgyrchwyr dros y bleidlais i ferched. Roedd hi'n ddeugain mlwydd oed pan fu farw ei mam ac y cafodd gyfle o'r diwedd i fwynhau annibyniaeth. Yn 1905 fe ymunodd â'r Lyceum, clwb cymdeithasol newydd i ferched yn Llundain, gan fynd yn ei blaen i ddatblygu canghennau ym Merlin yr un flwyddyn, ac ym Mharis yn 1907. Ymgartrefodd ym Mharis yn bennaf tan y Rhyfel Byd Cyntaf ac yno y cyfarfu, tua 1909-10, Fanny Mowbray Laming, cerddor a siaradwraig gyhoeddus o deulu hanner Ffrengig, a ddaeth yn gymar oes iddi. Yno hefyd y datblygodd Alice Williams ei doniau artistig ymhellach, yn enwedig ym maes y tirlun dyfrlliw. Yn 1914 fe'i gwahoddwyd i ymuno â'r Union Internationale des Beaux-Arts et des Lettres; bu hefyd yn aelod o'r Union des Femmes Peintres et Sculpteurs de Paris, gan arddangos ei gwaith yn Llundain yn ogystal â Pharis.

Teithiai'n aml ar y Cyfandir o hyd, ac yn München oedd hi pan gyhoeddodd Prydain ryfel yn erbyn yr Almaen yn Awst 1914. Ar ôl peth trafferth llwyddodd i gyrraedd y Swistir lle bu'n gweithio i'r Groes Goch ac yn gwerthu ei lluniau dyfrlliw i godi arian at achos ffoaduriaid o wlad Belg. Wedi dychwelyd i Baris, yn Ionawr 1915 fe sefydlodd hi Le Signal, biwrô a gynorthwyai'r rhai a geisiai newyddion am bobl ar goll, boed y rheiny'n garcharorion, wedi eu clwyfo neu eu lladd; agorodd gangen yn Llundain ddeufis yn ddiweddarach. Erbyn haf y flwyddyn honno dechreuodd hi godi arian i'r French Wounded Emergency Fund a dod yn Drefnydd-Ysgrifennydd Cymru, gyda'i phencadlys yng Nghae Canol, tŷ ger Castell Deudraeth, tan Ragfyr 1917. Roedd hi'r un mor gyfforddus gyda'r Cymry ag yr oedd hi yng nghwmni llysgenhadon, artistiaid a llenorion yn Llundain neu dramor, ac yn fodurwraig arloesol fe yrrai o gwmpas Cymru yn ei Ffordyn ffyddlon i godi arian. Ar ei theithiau byddai'n annerch cyfarfodydd a llwyfannu dwy ddrama newydd ganddi, Liz a Britannia. Cyfieithiwyd yr olaf, a ddisgrifiwyd fel 'drama-basiant wlatgarol' ar gyfer merched o bob oed, i'r Gymraeg gan Alice Gray Jones ('Ceridwen Peris'). Dyfarnwyd y Médaille de la Reconnaissance Française i Alice Williams am ei gwaith gyda'r Gronfa.

Parhaodd ei hymrwymiad i greu cyfleoedd ehangach i ferched ddatblygu'n gymdeithasol, addysgiadol a diwylliannol yn ganolog i'w bywyd. Yn 1917 sefydlodd hi gangen Deudraeth Sefydliad y Merched, y bedwaredd gangen yng Nghymru, gan gyflwyno adeilad ar ei chyfer ar dir ym Minffordd a roddwyd gan ei brawd Arthur. Ar ôl y seremoni agoriadol aeth hi yn ei blaen i Benbedw ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol, lle y derbyniwyd hi i'r Orsedd fel 'awdures dramâu' gyda'r enw 'Alys Meirion'. Roedd y gadair eisteddfodol a enillodd 'Bryfdir' (Humphrey Jones, 1867-1947), un o'i henwebwyr, yn 1899, eisoes wedi ei chyflwyno iddi gan SyM Deudraeth. Bu Alice Williams yn ddylanwadol yn natblygiad Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched, gan wasanaethu fel yr Ysgrifennydd Mygedol cyntaf ac fel Trysorydd o 1917 ymlaen, a threfnai arddangosfeydd celf a chrefft sylweddol. Hi hefyd sefydlodd gylchgrawn y mudiad, Home and Country, yn 1919, a'i olygu tan Mehefin 1920. Yn 1919, gyda chymorth Fanny Laming, sefydlodd y Forum Club yn Grosvenor Place, Llundain, clwb preswyl a gynigiai i ferched ganolfan gymdeithasol gyda'r un adnoddau â chlwb dynion, gan gynnwys bar coctêls. Radical ond gwleidyddol annibynnol oedd yr ethos, yn broffesiynol ei naws ond â llawer o hwyl. Dros gyfnod o bymtheg mlynedd ar hugain bu'r Forum yn hafan i ferched, yn enwedig rhai sengl a'r rhai â gwaith mewn meysydd proffesiynol, lle'r roedd cyfleodd gwaith newydd agor iddynt. Ymhlith yr aelodau gellir enwi'r arlunydd Laura Knight, yr awyrenydd Amy Johnson a'r actores ac awdur Elizabeth Robbins, ymgyrchydd dros y bleidlais i ferched. Ymhlith aelodau'r adran Gymreig fywiog yr oedd un o ffrindiau Alice Williams, y nofelydd Berta Ruck, a ymunodd yn llawen yn hwyl y dramâu amatur. Parhaodd Williams i baentio, gan gynnal arddangosfeydd bob blwyddyn yn y Forum a llefydd eraill, ac arhosodd yn driw iawn i SyM Deudraeth. Pan werthwyd Castell Deudraeth a'r ystad i'w nai, Clough Williams-Ellis, yn 1931, cadwodd ei theulu Borth-wen, tŷ yn edrych dros yr aber, ac yno y byddai'n aros wrth ymweld yn rheolaidd â'r ardal. Pan drowyd y castell yn westy bu'n gefnogol i'r fenter a dwyn perswâd ar gyfeillion cefnog o Lundain i ddod i aros yno. Yn ystod y cyfnod hwn bu'n arloesi mewn maes arall eto, fel y ferch gyntaf i gael ei hethol i bwyllgorau ysbytai Sain Sior a'r Brenin Edward yn Llundain, ac yn 1937 derbyniodd y CBE am wasanaeth cyhoeddus neilltuol.

Ni fu'r blynyddoedd nesaf yn garedig iddi. Yn 1939 bu farw Fanny Laming yn ogystal â'i brawd, Dr Leonard Williams, a fu'n agos ati ers eu plentyndod, ac yn 1944 cafodd adeilad y Forum Club lawer o ddifrod yn y blitz. Yn ddiweddarch a hithau'n tynnu am ei 90 oed bellach, trefnodd i'r Clwb fudo i gartref newydd, ond ni fu i'r Forum bara'n hir ar ôl iddi farw. Wrth i'w golwg ballu gorfu iddi roi'r gorau i baentio, ond ni phallodd ei hiwmor slei a'i hysbryd bywiog, a bu'n fodryb boblogaidd a hael. Bu farw Alice Williams yn ei chartref, 43 Cadogan Place, Chelsea, ar 15 Awst 1957, a chynhaliwyd ei gwasanaeth coffa yn Llundain ar 11 Hydref 1957.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2015-12-03

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.