WILLIAMS, DAVID (1779 - 1874), Troedrhiwdalar, gweinidog gyda'r Annibynwyr

Enw: David Williams
Dyddiad geni: 1779
Dyddiad marw: 1874
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr
Place: Troedrhiwdalar
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Dyfnallt Owen

Ganwyd 27 Ionawr 1779 yn Nantydderwen, plwyf Llanwrtyd, sir Frycheiniog. Hanoedd o hen linach enwog yn y fro, ac o ochr ei fam o deulu John Penry; cafodd hyfforddiant crefyddol ar aelwyd ei rieni, a bu am ysbaid yn ysgol offeiriad plwyf Llanwrtyd. Derbyniwyd ef yn aelod yn Llanwrtyd gan Isaac Price. Prentisiwyd ef yn grydd. Aeth i Lanymddyfri yn 1796 a Merthyr Tydfil yn 1797, a bu ganddo ran flaenllaw yng nghychwyn achos Annibynnol yno. Dychwelodd gartref a dechreuodd bregethu yn Llanwrtyd yn 1799. Bu am bedair blynedd yn pregethu cyn cael ei ordeinio, a mynd ar daith yn 1800 mor bell a Gogledd Cymru. Urddwyd ef yn weinidog Llanwrtyd a Throedrhiwdalar ar 8 Awst 1803. Estynnodd y Bwrdd Presbyteraidd rodd o £5 iddo ar yr achlysur. Sefydlodd achosion ym Methel, Cynghordy (dyffryn Tywi), Ebeneser, ar du dwyrain Epynt, Abergwesyn, Beulah, ac Olewydd, a swcro pob achos gwan yng Nghantref Buellt. Gwelodd gyfnodau o ddiwygiadau nerthol ac ychwanegwyd cannoedd lawer at ei eglwysi. Daeth penllanw ei weinidogaeth ym mlwyddyn ei jiwbili, sef 1853. Dathlwyd yr amgylchiad ar raddfa fawr a chyflwynwyd darlun ohono mewn olew i Goleg Aberhonddu. Ymddeolodd 6 Awst 1866, eithr daliodd i bregethu hyd ddiwedd ei oes. Bu farw 20 Awst 1874. Meddai gorff iach, cydnerth, llais clir, clochaidd, parabl rhwydd, ac arddull boblogaidd iawn. Pregethai bob blwyddyn yng nghymanfaoedd Gogledd a De. Yr oedd yn bregethwr gwresog, efengylaidd yn ôl urdd Howel Harris a diwygwyr y 18fed ganrif. Tebyg iddo deithio a phregethu gymaint, onid mwy, na neb yn ei gyfnod.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/