WILLIAMS, Syr HUGH (1718 - 1794), milwr ac aelod seneddol

Enw: Hugh Williams
Dyddiad geni: 1718
Dyddiad marw: 1794
Priod: Emma Bulkeley (née Rowlands)
Plentyn: Robert Williams
Rhiant: Griffith Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: milwr ac aelod seneddol
Maes gweithgaredd: Milwrol; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn 1718 yn fab i Griffith Williams o Ariannws (Llangelynnin, dyffryn Conwy) ac yn ŵyr i Edmund Williams frawd Syr Hugh Williams o'r Marl; ar farw ei gâr Syr Robert Williams o'r Marl (1745), daeth yn 8fed barwnig 'o'r Penrhyn' (J. E. Griffith, Pedigrees, 186 a 43). Priododd yn 1761 (yn ail ŵr iddi) ag Emma, gweddw'r arglwydd James Bulkeley ac aeres Caerau a Chastellior (gweler dan Roberts, Lewis). Aeth i'r fyddin, yn swyddog, yn 1739, ac yr oedd yng ngarsiwn ynys Minorca pan ymosodwyd arni yn 1756; yr oedd yn is-filwriad catrawd o wirfoddolwyr yn 1759, ac yn gyrnol y '53rd Foot' yn 1761. Troes wedyn at wleidyddiaeth - yr oedd y crynswth o stadau a ddaeth i'w ran trwy etifeddiaeth neu briodas wedi ennill dylanwad mawr iddo. Bu'n aelod seneddol dros Fiwmares yn 1768-80 a 1785-94; ar hyd y cyfnod 1761-94 yr oedd yn gwnstabl Biwmares, a bu'n faer y dref droeon. Daeth yn aelod o Gymdeithas y Cymmrodorion yn 1770 (Additional Letters of the Morrises of Anglesey (1735-86) , t. 767), ac yr oedd yn drysorydd Cymdeithas yr Hen Frutaniaid yn Llundain yn 1773. Bu farw yn y Friars, Llanfaes, 19 Awst 1794, 'yn 76 oed.'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.