Ganwyd yn Llansawel, Sir Gaerfyrddin, ac ymddengys fod iddo lawer o eiddo yn yr ardal honno. Trwy briodas yr oedd yn perthyn i deulu Vaughan, y Gelli Aur. Dechreuodd ar ei yrfa yn Rhydychen fel ysgolor o Goleg Corpus Christi yn 1569, o dan yr enw John Thomas. Graddiodd yn B.A. 1573/4, M.A. 1577, ac etholwyd ef yn gymrawd o Goleg All Souls yn 1579. Derbyniodd reithoraeth Llandrinio, Sir Drefaldwyn, yn 1594, a'r un flwyddyn graddiodd yn B.D., a'i benodi yn 'Margaret Professor' mewn diwinyddiaeth. Daliodd y swydd olaf hyd ei farw. Graddiodd yn D.D. yn 1597. Daeth i gysylltiad â Choleg Iesu yn gyntaf pan etholwyd ef yn gymrawd trwy ddylanwad Dr. Aubrey. Yn 1602 penodwyd ef yn brifathro, ac yr oedd yn is-ganghellor y brifysgol yn 1604. Penodwyd ef yn ddeon Bangor yn 1605. Fel prifathro, dangosodd ei hun yn weinyddwr medrus, ac yn ei amser ef cynyddodd rhif yr efrydwyr yn gyson, ac yn eu plith nifer arbennig o Ddeheudir Cymru. Cychwynnodd y ' Liber Collegii,' sef coflyfr o etholiadau a gweithrediadau eraill y coleg, yn cynnwys hefyd, yma a thraw, amcangyfrif ariannol. Ond bu'n ystyfnig yn ei wrthwynebiad i'r rheolau a gynlluniwyd ar gyfer y coleg gan Griffith Powell, brodor o'r un pentref ag yntau a'i ddilynydd yn y swydd o brifathro. Llwyddodd i ohirio'r mater o fabwysiadu'r rheolau tra bu fyw. Bu farw 4 Medi 1613 a chladdwyd ef yn S. Michael's, Rhydychen. Ysgrifennodd De Christi Justitia et in regno spirituali ecclesiae pastorum officio, 1597, a golygodd un o weithiau Roger Bacon, sef De retardandis senectutis accidentibus et sensibus confirmandis, 1590.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.