WILLIAMS, JOHN (1762 - 1802), clerigwr efengylaidd

Enw: John Williams
Dyddiad geni: 1762
Dyddiad marw: 1802
Rhiant: John Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr efengylaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn Abergwaun yn fab i John Williams. Bu farw ei dad; ailbriododd ei fam; ac anfonodd ei lysdad ef i Goleg Iesu, Rhydychen, yn 1783. Rhoddir gradd B.A. iddo ar wynebddalen y gyfrol o'i bregethau, ond nid oes gofnod iddo raddio, ac yn wir cafodd urddau fis Mai 1785, h.y. ddwy flynedd ar ôl mynd i Rydychen. Bu'n athro teulu, a churad, i'r Dr. John Phillips (1730 - 1814), offeiriad plwyfi Burton a Williamston, ac ymddengys ei fod gyda hynny'n gurad i ficer Rosemarket. Penodwyd ef yn 1793 yn ficer Begelly, a bu yno hyd ei farwolaeth, 3 Ebrill 1802, yn 40 oed. Hynodrwydd Williams oedd ei ddulliau lled-Fethodistaidd; pregethai'n rymus, a chynhaliai 'gymdeithasau neilltuol' (seiadau) yn nhai ei blwyfolion. Nid ymadawai â'i blwyf i bregethu gan mwyaf, ond y mae gennym un enghraifft ddiddorol o hynny; yr oedd yn gyfeillgar â Thomas Charles a'r offeiriaid Methodistaidd eraill (megis David Griffith o Nanhyfer), ac ym misoedd Gorffennaf ac Awst 1801 cawn ef yn gwasnaethu eglwys amhlwyfol yn Broughton, sir Gaerlleon. Sonnid am ei wahodd i gymryd gofal yr eglwys honno, ond ni fynnai hynny - mewn llythyr at Charles ym mis Chwefror 1802 rhydd ddau reswm, sef yr anhawster i gael clerigwr i gymryd ei ddyletswyddau yn Begelly yn ei absenoldeb, a'r teimlad na ddylai clerigwr wasnaethu cynulleidfa a oedd yn gwegian rhwng yr Eglwys Wladol a rhyw fath o Ymneilltuaeth. Ond ar y llaw arall, croesawai bregethwyr teithiol a ymwelai â Begelly, hyd yn oed Ymneilltuwyr - yn arbennig rhoddai groeso i Richard Morgan o Henllan a Morgan Jones o Drelech ar eu teithiau cenhadol mynych ym Mhenfro Saesneg, a byddent yn lletya yn ei bersondy. Cyhoeddwyd yn 1805 gyfrol o'i bregethau, Twenty Sermons on Miscellaneous Subjects, gyda byr-gofiant.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.