WILLIAMS, PHILIP (bu farw 1717), ' yr achydd,'

Enw: Philip Williams
Dyddiad marw: 1717
Plentyn: Llewelin Williams
Rhiant: Philip Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: yr achydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant
Awdur: William Llewelyn Davies

Plas Dyffryn Clydach, dyffryn Nedd, Sir Forgannwg, mab Philip Williams (bu farw 1668). Heblaw bod yn achydd, yr oedd Philip Williams (y mab) yn stiward maenol Llangatwg Nedd (Cadoxton) a stad Mynachlog Nedd, eiddo Elizabeth Hoby (bu farw 1699), eithr cynhwysir ei enw yma am ei fod yn esiampl o ŵr o Sir Forgannwg a noddai feirdd lleol Cymreig, fel, hefyd, y gwnâi ei fab, LLEWELIN WILLIAMS (a gladdwyd 20 Tachwedd 1740). Ceir cyfeiriadau at ganeuon gan Dafydd Evan, William Prees Crwth (a hefyd gan ' Richard Edwards prydydd o Wynedd') yng nghyfrol gyntaf N.L.W. Schedule of Penrice and Margam Muniments, 1942. Ceir rhai manylion am y teulu yn D. R. Phillips, Hist. of the Vale of Neath, 1925; gweler hefyd G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg, 224.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.