Ganwyd ym Mhenarlâg yn 1747 yn fab i'r rheithor, Richard Williams (M.A., Coleg Iesu, Rhydychen), a oedd yn fab i Peter Williams, clerigwr yntau, perchennog y Fron (Arddynwynt) gerllaw'r Wyddgrug - hawliai'r teulu dras Cynwrig Efell (Yorke, Royal Tribes of Wales). Yn Rhagfyr 1765, 'yn 18 oed,' aeth i Goleg Brasenose, Rhydychen, ond nid oes gofnod iddo raddio. Bu'n rheithor Machynlleth, 1789-1805, a Llanferres 1805-11; bu farw'n ddisyfyd 4 Mehefin 1811. Gradd neu beidio, y mae'n amlwg fod anian ysgolhaig ynddo; trosodd un o drasiedïau Seneca, y Medea, yn Saesneg, a gadawodd mewn llawysgrif drosiadau Lladin o farddoniaeth Gray, a phethau eraill. Ond cofir ef yn bennaf fel cyfaill Thomas Pennant, a chyfieithydd y darnau o farddoniaeth Gymraeg sydd yn Tour Pennant (megis ' Hirlas ' Owain Cyfeiliog); ymddengys cyfieithiadau ganddo hefyd yn Musical and Poetical Relicks, Edward Jones ('Bardd y Brenin').
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.