WILLIAMS, THOMAS ('Clwydfro'; 1821-1855)

Enw: Thomas Williams
Ffugenw: Clwydfro
Dyddiad geni: 1821
Dyddiad marw: 1855
Rhiant: Robert Williams
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn Glanclwyd, Bodfari, yn fab i Robert Williams (isod). Dechreuodd brydyddu'n ifanc, ac anfon ei waith i'r Geiniogwerth (gweler Jones, Lewis, 1808 - 1854), yr Amserau, a'r Beirniadur Cymreig , (1845). Ymfudodd i Awstralia i'r gwaith aur - yr oedd yn Melbourne yn 1853 neu 1854 (Cymru, O.M.E., xxxi, 284). Bu farw mewn lle o'r enw Castlemaine fis Ebrill 1855, 'yn 34 oed.'

ROBERT WILLIAMS, Glanclwyd, prydydd

Yr oedd tad Clwydfro yntau'n brydydd. Priodolir iddo garolau, emynau, a marwnadau (e.e. i'r Lewis Jones a enwyd, ac i Richard Humphreys). Yn 1836 cyhoeddodd Casgliad o ganiadau ar wahanol destynau moesol a chrefyddol, o'i waith ef ei hun ac eraill. Cymysgwyd ef gan rai â Robert Williams arall, a aned yntau yn Glanclwyd - enw yw 'Glanclwyd' ar ddwy fferm fawr ac amryw o dai gweithwyr yn eu hymyl; mab i un o'r ffermydd oedd y diwinydd Edward Williams (1750 1813), ac nid ymddengys fod unrhyw berthynas rhyngddo a'r ddau Robert Williams, na rhyngddynt a'i gilydd.

ROBERT WILLIAMS (1804 - 1855), gweinidog gyda'r Wesleaid

Dechreuodd bregethu yn 1832, a bu farw'n ddisyfyd yn Llandeilo Fawr 7 Mehefin 1855, yn 51 oed. Sgrifennai ryddiaith a barddoniaeth i'r Eurgrawn, a bu'n olygydd Y Winllan; yr oedd yn un o'r pedwar gweinidog a benodwyd yn 1844 i aildrefnu emyniadur ei enwad. Yr oedd hefyd yn gerddor, ac yn 1852 cyhoeddodd lyfr tonau, Cydymaith yr Addolydd (Y Bywgraffydd Wesleyaidd, 271-3).

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.