JONES, LEWIS (1808 - 1854), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a llenor

Enw: Lewis Jones
Dyddiad geni: 1808
Dyddiad marw: 1854
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a llenor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd ym Melin Cae'r Berllan, Llanfihangel-y-pennant (Meirion). Aeth i'r Bala yn ifanc, yn rhwymwr llyfrau i Robert Saunderson. Dechreuodd bregethu, ac aeth i ysgol John Hughes (1796 - 1860) yn Wrecsam; ordeiniwyd ef yn 1838. Yn nhŷ-capel Llwyneinion yr oedd yn byw, ac yno y bu farw 29 Mawrth 1854, yn 46 oed; claddwyd ym mynwent capel Llidiardau (Waun y Bala).

Yr oedd yn fab yng nghyfraith i William Edwards yr emynydd, 1773 - 1853.

Yr oedd yn sgrifennwr diwyd. Cyhoeddodd yn 1841 gofiant i'r Parch. Richard Jones o'r Bala (1784 - 1840; gweler arno Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru a W. Williams, Methodistiaeth Dwyrain Meirionydd, 577-9); heblaw hwn, y mae llyfrau eraill ganddo. Sgrifennai'n dda i'r Traethodydd; ac efe'n bennaf a oedd yn gyfrifol am y misolyn bychan Y Geiniogwerth (1847-51) - yn hwnnw'r ymddangosodd ei 'Lythyrau Hen Ŵr Mynyddig.' Dilynwyd y Geiniogwerth gan Y Methodist (1851), ond ni bu hwnnw'n llwyddiant.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.