Ganwyd 19 Tachwedd 1832, mab hynaf Thomas Rayson Williams, gweinidog Annibynnol, Merryvale, Arberth, Sir Benfro, a Mira, ei wraig. O 1846 hyd 1851 bu'n efrydydd yng Ngholeg Presbyteraidd Caerfyrddin, lle y troes yn Undodwr. Aeth i Brifysgol Glasgow yn 1851 fel ysgolor Dr. Williams, a graddiodd yn B.A. yn 1853 ac yn M.A. yn 1854. Yno hefyd enillodd y brif wobr mewn rhesymeg a medal arian mewn metaffyseg. Gwasnaethodd fel pregethwr cynorthwyol am ychydig yn Leeds a Plymouth, ond ymaelododd yn Gray's Inn 7 Ebrill 1856, a galwyd ef i'r Bar 26 Ionawr 1859. Ymunodd â chylchdaith De Cymru gan ddod yn arweinydd iddi ymhen ychydig. Derbyniwyd ef yn aelod o'r Middle Temple 22 Ebrill 1875, a phenodwyd ef yn Queen's Counsel 25 Mehefin 1875. Penodwyd ef yn gofiadur Caerfyrddin ym mis Hydref 1872, ond ymddiswyddodd ym mis Mai 1878 pan etholwyd ef yn aelod seneddol dros fwrdeisdref Caerfyrddin; cynrychiolodd yr etholaeth hon hyd nes y penodwyd ef 13 Rhagfyr 1881 yn farnwr yn y llysoedd sir yng nghylchdaith rhif 30 (rhannau o siroedd Morgannwg a Brycheiniog). Ymddeolodd o'r fainc fis Mehefin 1885 o achos afiechyd. Yr oedd hefyd yn ustus heddwch yn siroedd Brycheiniog, Morgannwg, a Phenfro, yn aelod o bwyllgorau Colegau Prifysgol Cymru yn Aberystwyth a Chaerdydd, ac yn un o ddau ysgrifennydd mygedol Coleg Aberystwyth hyd nes iddo ymddiswyddo Mai 1885. Golygodd The Law Magazine a The Commercial Compendium am beth amser. Ymhlith ei gyhoeddiadau ceir y gweithiau canlynol: The Desirableness of a University for Wales, 1853; Arthur Vaughan, nofel, 1856; pamffled ar y terfysg yn Jamaica, 1866; a bywgraffiad o Thomas Stephens a gynhwysir ar ddechrau yr ail argraffiad o The Literature of the Kymry, 1876. Yn 1851, priododd â Margaret, unig ferch T. John, Dolemain. Bu farw 21 Mawrth 1890.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.