Fe wnaethoch chi chwilio am Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray
Ganwyd c. 1625, ail fab Edward Williams Carwed Fynydd, Llannefydd, sir Ddinbych. Bu'n ddisgybl yn Ysgol Westminster, ac yn 1642 ymaelododd yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt, lle y graddiodd yn B.A. yn 1647/8 ac yn M.A. yn 1657. Yn 1660 cyflwynwyd ef gan Robert, arglwydd Bulkeley, i fywoliaeth Llandegfan a Biwmares, er nid ymddengys iddo ddal y swydd ond am flwyddyn. Gadawodd Landegfan yn 1668 i fod yn rheithor Llansadwrn, a symudodd oddi yno drachefn y flwyddyn ddilynol i ficeriaeth Llangurig yn Sir Drefaldwyn. Bu'n ficer Llaneurgain, 1672-7, a Rhuddlan, 1678-84; daliai, hefyd, fywiolaethau diofal Llansannan, 1663-78, a Bodfari, 1672-81. Gwnaed ef yn ganon o eglwys gadeiriol Llanelwy yn 1679. Rhuddlan ydoedd ei fywoliaeth olaf, a bu farw cyn 28 Mehefin 1684. Priododd â Myddanwy, gweddw John Lloyd, Plas Llanddyfnan, a merch William Jones, Plas Gwyn, Pentraeth. Yr oedd yn hynafiaethydd cymwys a dibynadwy, fel y tystia hynny o'i waith a erys ar glawr, sef: 'Historia Bellomarisci,' 1669, a gyhoeddwyd fel atodiad i'r adargraffiad o Tours in Wales, Fenton (Archæologia Cambrensis, Supplement, 1917); ' History of the Bulkeley Family ' (1673-4), a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn Transactions of the Anglesey Antiquarian Society and Field Club, 1948; a hanes, llygad-dyst o bosibl, o'r gwrthryfel ym Môn yn 1648, a ymddengys fel atodiad i gerdd Richard Llwyd, ' Beaumaris Bay.'
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.