WILLIAMS, WILLIAM (‘Carw Coch’; 1808 - 1872), eisteddfodwr a llenor

Enw: William Williams
Ffugenw: Carw Coch
Dyddiad geni: 1808
Dyddiad marw: 1872
Rhiant: Joan Williams
Rhiant: Noah Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: eisteddfodwr a llenor
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 6 Mawrth 1808 gerllaw Aberpergwm yn nyffryn Nedd, yn fab i Noah a Joan Williams, aelodau o gynulleidfa Undodaidd Blaen Gwrach. Symudodd yn ifanc i Dredegar, ac oddi yno i Lwydcoed, Aberdâr lle y priododd (1832) â merch o un o hen deuluoedd yr ardal. Yn 1837, cododd y gwesty yn Nhrecynon a elwid ‘y Stag’ — dyna'r eglurhad ar ei ffugenw — ac yno y bu weddill ei fywyd. Yr oedd yn wleidydd egnïol, yn perthyn i gymdeithas ‘Rhyddymofynwyr’ Aberdâr, ac yn pleidio'r ‘Chartists’ — ysgrifennai yn eu cyfnodolyn Cymraeg, Udgorn Cymru. Ysgrifennai hefyd yn Yr Ymofynydd (yr oedd yn aelod blaenllaw yn Hen Dŷ Cwrdd Undodaidd Trecynon), ac yr oedd yn un o gychwynwyr Y Gwladgarwr (y newyddiadur, 1857-83). Yn 1841 cynhaliwyd eisteddfod yn y Stag, a throes y ‘Rhyddymofynwyr’ o hynny allan yn ‘Gymreigyddion y Carw Coch,’ y bu gwŷr fel ‘Alaw Goch’ (David Williams) a'r Dr. Thomas Price, ac yn wir holl lenorion y fro, yn cymryd rhan ynddi. Cynhaliwyd ‘eisteddfod y Carw Coch’ am gyfnod hir ar ôl 1841 — cynnyrch un o'r gyfres (1853) oedd y gyfrol Gardd Aberdâr, 1854, y gwelir un o draethodau ‘Carw Coch’ ynddi. Bu farw 26 Medi 1872, a chladdwyd ym mynwent S. Ffagan, Aberdâr. Casglwyd peth o'i draethodau a'i brydyddiaeth mewn cyfrol, Carw Coch, 1908.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/