WILLIAMS, WILLIAM ('Myfyr Wyn '; 1849 - 1900); gof, bardd, ac hanesydd lleol

Enw: William Williams
Ffugenw: Myfyr Wyn
Dyddiad geni: 1849
Dyddiad marw: 1900
Rhiant: Hannah Williams (née Hopkin)
Rhiant: John Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gof, bardd, ac hanesydd lleol
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: David Myrddin Lloyd

Cyfrannwr llithiau cyson i newyddiaduron Cymraegyn enwedig Tarian y Gweithiwr yn y naw degau. Fe'i ganed ar Dwyn Star, Tredegar. Mab ydoedd i John a Hannah Williams. Glöwr oedd ei dad, genedigol o ardal Aberteifi, a fu farw wedi damwain ym mhwll glo Bryn Bach, Tredegar, pan nad oedd ' Myfyr Wyn ' ond bachgen, ac yn un o bedwar o blant. Ganed ei fam yn Nant-y-bwch yn 1819 i deulu a ddaethai yno o Gwm Nedd; yr oedd hi'n chwaer i William Hopkin, glöwr, a sgrifennodd rai o'r erthyglau yng ngeiriadur ' Mathetes.' Bedyddwyr oedd y teulu, a magwyd ' Myfyr Wyn ' yn eglwys Carmel, Sirhywi. Y gweinidog yno yn adeg ei fachgendod oedd Robert Ellis, ' Cynddelw ', a ddaeth yn arwr mawr ei fywyd. Dysgodd ei grefft fel gof yn efail y gwaith haearn yn Sirhywi, ac yno troai ymhlith nifer o feirdd lleol, megis Joseph Bevan, ' Gwentydd,' ac Ezechiel Davies, ' Gwentwyson '; ond ei brif athro barddoniaeth oedd Evan Powell, ' Ap Hywel.' Tua chanol ei oes symudodd i Forgannwg, lle bu'n canlyn ei alwedigaeth yn y Porth, a mannau eraill, ac yn olaf yn Aberdâr. Gwanychodd ei iechyd, ac yn niwedd ei oes cadwai siop bapurau yn Aberaman, lle y bu farw ar 5 Mehefin 1900, a'i gladdu ar y 9fed, yn Aberdâr. Gadawodd weddw ac un mab.

Cystadlai ' Myfyr Wyn ' gryn dipyn mewn eisteddfodau ar y mesurau caeth a rhydd, ond mewn darnau byrion difyr yr oedd ei awen ar ei gorau, a chyhoeddodd ddwy gyfrol o gerddi poblogaidd, sef Gwreichion yr Eingion (Tredegar, 1887), ac Y Trwmpyn neu Bartnar Piwr i Fechgyn a Merched gan 'Y Bachan Ifanc' (Aberdâr, 1896, ail arg. 1906). Yr oedd y ' Llythyra Bachan Ifanc ' yn y Darian yn llithiau poblogaidd iawn mewn tafodiaith, a chymharodd y golygydd hwy yn eu heffaith ar y cylchrediad i ' Lythyrau'r Hen Ffarmwr ' yn yr Amserau. Yn 1908 casglwyd cyfrol o'i ysgrifau a'i gerddi gan ei frawd, D. Williams, ' Myfyr Ddu,' a'u cyhoeddi yn gyfrol, sef Cân, Llên, a Gwerin. Cynhwysa'r gyfrol hon ei ' Adgofion am Sirhowi a'r Cylch.' Cyhoeddwyd detholion o'r atgofion gwerthfawr hyn yn 1951 gan Wasg Prifysgol Cymru.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.