Fe wnaethoch chi chwilio am Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray
Ail fab Hugh Gwyn ('Hugh ap John Owen') o'r Waunfynydd, Llechylched, Môn (o hil Hwfa ap Cynddelw, arglwydd Llifon yn y 12fed ganrif), ac Elin ferch Robert ap John ap William o Dre'r-ddolphin. Ymaelododd yn Rhydychen o Goleg Iesu, 10 Gorffennaf 1668, a graddiodd yn 1672; yn ddiweddarach cafodd radd doethur yn y gyfraith ac yn ôl pob tebyg yr oedd yn ddadleuydd yn Doctors' Commons, 10 Ionawr 1694. Bu'n ysgrifennydd cyfrinachol i Syr Leoline Jenkins pan oedd hwnnw'n 'Secretary of State,' a daliodd swydd 'Under-secretary' dan olynwyr Jenkins hyd tua 1690 - yn y cymeriad hwnnw yr oedd yn ysgrifennydd y ddirprwyaeth a anfonwyd gan Iago II (Tachwedd 1688) i siarad â William o Orange. Y mae Wynne felly'n enghraifft gynnar o'r swyddogaeth wladol barhaol; gwelir adroddiad cyfoed o'i ddyletswyddau (megis cadw holl bapurau'r swyddfa, a chyfieithu'r papurau Lladin, Ffrangeg, etc.) yn F. M. G. Evans, The Principal Secretary of State, 1923, 192 - ei gyflog oedd £140 gyda'i lety a'i fwyd neu £200 hebddynt. Swyddau eraill a fu gan Wynne oedd bod yn warden y Mint (hyd 1690), ac yn ysgrifennydd comisiwn y llongau a gipiwyd gan y llynges mewn rhyfel (Ionawr 1693). Byddai'n hysbysu i'w gyfeillion yng Ngogledd Cymru (yn arbennig Syr Robert Owen o Frogyntyn a'r Clenennau - gweler yr ysgrif ar Syr John Owen) y newyddion diweddaraf o lys Iago II.
Mab hynaf Owen Wynne. Aeth yntau i Rydychen, gan ymaelodi o Goleg Iesu ar 23 Ionawr 1709, a graddio yn 1712; aeth i'r Middle Temple yn 1718 a gwnaethpwyd ef yn sersiant yn y gyfraith yn 1736. Etifeddod bapurau preifat Syr Leoline Jenkins (a adewsid i Owen Wynne), ac ar eu sail cyhoeddodd yn 1724 ddwy gyfrol, The Life of Sir Leoline Jenkins. Bu farw 16 Mai 1765, a chladdwyd yn abaty Westminster, wythnos wedyn.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.