Ganwyd yn y Ty-gwyn, Llan-ym-Mawddwy, yn fab iau i John James (a'i goroesodd) a'i wraig Sarah; yr oedd y tad yn ddiacon gydag Annibynwyr Dinas Mawddwy, a bu'r mab hynaf, Hugh James (1809 - 1875) yn weinidog Annibynnol yn y Brithdir ac yn Llansantffraid-ym-Mechain. Aeth John James yn gynnar i Lundain; ni wyddys beth oedd ei waith yno, ond priododd ferch gyfoethog; ar adeg ei farw yr oedd yn byw yn 4, Tysoe Street, Wilmington Square. Byddai'n llenora yn y ddwy iaith, ac yn ôl ' Talhaiarn ' yr oedd yn aelod blaenllaw o Gymdeithas y Cymreigyddion. Ar awr anffodus i'w glod, penodwyd ef yn un o ddeuddeg cynorthwywr y comisiwn ar addysg yng Nghymru, 1846 - yn ôl pob tebyg oherwydd ei gefndir Anghydffurfiol; ond tegwch ag ef yw barnu bod ei Ymneilltuaeth erbyn hynny'n fwy o enw nag o sylwedd. Achosodd ei adroddiadau, a argraffwyd yn adroddiad y comisiwn, gyffro dirfawr, a bu yntau'n destun beirniadaeth lem gan Lewis Edwards (yn Y Traethodydd - neu gweler y ddwy ysgrif yn Traethodau Llenyddol, 374-421), a gwawd ffyrnig gan wyr llawer llai na Lewis Edwards. Y mae'n sicr ei fod erbyn 1847 wedi cefnu ar Ymneilltuaeth, oblegid yng Ngorffennaf 1847 dewiswyd ef yn ysgrifennydd i ymddiriedolwyr y ' Welsh Charity School '; a phenodwyd ef yn olygydd y newyddiadur eglwysig Y Cymro pan symudwyd y papur o Fangor i Lundain yn 1830. Ciciwyd ef gan ei geffyl ar Blackheath, 24 Ebrill 1851, a bu farw; claddwyd ef ym mynwent eglwys Llan-ym-Mawddwy, a dywed carreg ei fedd ei fod 'yn 36 oed.'
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.