Ganwyd yn Llanrwst, yn fab i Abel Jones, 'carrier,' a'i wraig Jane - bu'r ddau farw yn 1876, ill dau'n 74 oed. Yr oedd ganddo frawd, William, a fu farw yn 1893; yr oedd yntau'n 'gymeriad,' a hoffai beri i bont Llanrwst siglo, neu eto neidio i'r afon oddi ar big y bont. Dyn unllygeidiog oedd 'Bardd Crwst'; y mae darlun ohono yn Cymru (O.M.E.), xxvii, 173, neu'r wyneb-ddalen i Cerddi Cymru (d.d.), cyf. i. Gwyddys ei fod yn canu yn 1864 beth bynnag, a chlywodd 'Elfyn' (R. O. Hughes) ef yn canu yn Abergele yn gynnar yn 1901 - y mae llawer sydd eto'n fyw wedi ei glywed. Bu ar un adeg yn byw yn yr Wyddgrug, 'mewn cwrt yn y Stryd Fawr,' ac edrydd Ellis Edwards y byddai'n troi i mewn i siop Daniel Owen y nofelydd am sgwrs. Canai nid yn unig yng Ngogledd Cymru ond yn y Deheudir hefyd, a seiliwyd amryw o'i faledau ar ddigwyddiadau yn y Deheudir. Y mae 69 o'i faledau ar gael. Gelwir ef yn 'faledwr breiniol,' a chan gofio diweddarwch ei gyfnod y mae ar un ystyr yn ffigur hanesyddol ym mywyd cymdeithasol Cymru - 'yr olaf o'r baledwyr mawr.' Bu farw yn y tloty yn Llanrwst yn 1901, 'yn 71 oed,' a chladdwyd ar 22 Mehefin.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.