Ganwyd 26 Mai 1857 ym Moel-y-crio, Helygain, Sir y Fflint, yn unfed ar ddeg o 12 plentyn Evan a Mary Jones. Methodistiaid oedd ei rieni, ond ymunodd ef ag eglwys y Bedyddwyr yn Ainon, Pont-y-gof; bedyddiwyd ef 24 Mawrth 1872, a dechreuodd bregethu yn 1878. Aeth i ysgol yn Llangollen yn 1879, ac yn 1880 i athrofa'r Bedyddwyr yno. Bu'n fugail Pont-y-gof (1881), Penrhyn-coch (1882), Blaen-y-waun (Mawrth 1883), a Llwyn-y-pia (Mai 1892). Ar 23 Rhagfyr 1900 sefydlwyd ef yn Seion, Llanelli, ac yno y bwriodd weddill ei yrfa. O Awst 1918 hyd Fawrth 1923 analluogwyd ef, ond ailgydiodd yn ei waith hyd fis Rhagfyr 1929, pan ymddeolodd. Bu farw 6 Gorffennaf 1935. Cydnabyddid ef yn un o bregethwyr mwyaf ei ddydd. Ymddiddorai hefyd yn hanes ei enwad, a chyhoeddodd ysgrifau yn Trafodion Cymdeithas Hanes Bedyddwyr Cymru, ar Titus Lewis (1908-9), eglwys Cilfowyr (1913-4), a David Jones, Caerfyrddin (1932).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.